Cyngor Tref Llanfairfechan

Cyfarfodydd

Ein Cyfarfod Nesaf:

Bydd cyfarfod ar-lein nesaf y Cofnodion Cyfarfod ar Nos Fercher 02/10/2024 am 7yh.

Os oes gennych chi unrhyw faterion brys yr hoffech chi eu cyfeirio at y Cyngor Tref neu os hoffech chi dderbyn manylion ar sut i ymuno gyda chyfarfod fel gwyliwr, anfonwch e-bost at y Clerc ar jayne@llanfairfechan.net

Archif

Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 29 Tachwedd 2021

  


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 8 Tachwedd 2021


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 3 Tachwedd 2021

Yn gyntaf oll, fe hoffem roi gwybod i’r holl breswylwyr ein bod yn deall yn union pa mor rhwystredig a chryf maen nhw’n teimlo am y mater hwn. Fel Cyngor Tref, byddem wrth ein bodd yn coffáu Sul y Cofio gyda gwasanaeth ffurfiol yn y senotaff unwaith eto eleni.

 Fodd bynnag, wrth inni fynd ati i gynllunio’r digwyddiad Coffáu, daeth yn amlwg na fyddai hyn yn bosib. Rydym ni fel Cyngor Tref wedi ein dosbarthu fel corff trefnu gyda dyletswydd gofal i sicrhau bod mynychwyr yn ddiogel. At hyn, mae gofynion cyfreithiol arnom i gyflawni asesiadau risg cadarn. Bu inni dderbyn cyngor y gallai caniatáu i dorf o bobl ymgynnull, heb eu rheoleiddio, mewn ardal sy’n fach iawn a mewn gwirionedd, beri risg COVID annerbyniol. Mae dros 200 o bobl wedi mynychu’r digwyddiad Coffáu yn y gorffennol. Gan ddwyn i ystyriaeth yr holl wybodaeth ac arweiniad rydym ni wedi’u derbyn, bu inni benderfynu peidio â chynnal gwasanaeth yn y senotaff ar Sul y Cofio. Bu inni benderfynu y byddai’n llawer mwy diogel coffáu’r diwrnod gyda digwyddiad gosod torchau gan ryddhau fideo ar-lein ar Sul y Cofio.

Gallwch fwrw golwg ar fideo’r llynedd drwy glicio ar y ddolen isod.

https://www.facebook.com/watch/?v=2819849158246963

Rydym yn cydnabod bod y penderfyniad hwn yn ymddangos yn groes i’r lluniau y gwelwch chi o dyrfaoedd mawr o bobl yn mynychu gemau rygbi a chyngherddau. Fodd bynnag, dydyn ni fel Cyngor Tref ddim yn meddu ar y grym i weithredu mesurau diogelwch cyhoeddus sydd ar waith mewn digwyddiadau o’r fath, megis pasborts brechu neu dystiolaeth o brawf COVID negyddol. Does gennym ni ychwaith y grym i reoleiddio torf drwy eu gorfodi i gadw pellter cymdeithasol neu wisgo mygydau.     

 Rydym yn deall y gallai’r preswylwyr fod wedi’u siomi gyda’r penderfyniad hwn ac mae’n ddrwg iawn gennym ni am y gofid a achoswyd. Hoffem bwysleisio nad ydym, mewn unrhyw ffordd, yn ceisio atal preswylwyr rhag ymweld â’r senotaff ar ddydd Sul, Tachwedd y 14eg ac rydym yn mawr obeithio y bydd modd inni gynnal gwasanaeth ffurfiol y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, ein prif nod ydy diogelu ein cymuned a gofalu am eu lles.

Nid ar chwarae bach wnaethom ni ddod i’r penderfyniad hwn. Cafodd digwyddiad Coffáu Llanfairfechan ei drafod yn drylwyr mewn cyfarfodydd agored, lle’r oedd gwahoddiad i breswylwyr fynychu, ar Fedi’r 14eg a Hydref y 26ain. Bu i’r aelodau fwrw pleidlais ar y cynlluniau ac fe gytunwyd arnyn nhw mewn cyfarfod cyngor ar Hydref y 13eg.  

 Bydd ein cyfarfod cyngor tref nesaf heno am 7yh (ar-lein). Yn yr un modd â phob cyfarfod Cyngor Tref, mae croeso cynnes i’r preswylwyr  ac rydym yn eu hannog i fynychu.

Yn sgil Covid-19, rydym yn parhau i gynnal ein cyfarfodydd ar-lein ar ZOOM. Os hoffech chi ymuno, anfonwch e-bost at clerc y dref ar jayne@llanfairfechan.net. i dderbyn y manylion mewngofnodi


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 15 Gorffenaf 2021

Datganiad ERF Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

Gwaith draenio stormydd - Station Road a Park Crescent, Llanfairfechan

Gwaith yn dechrau: Dydd Llun 19 Gorffennaf 2021 – Gwaith yn gorffen: Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2021  

Beth sy’n digwydd?

Byddwn yn glanhau ac archwilio’r system draenio dŵr wyneb a stormydd, ac edrych am unrhyw broblemau.

I darfu cyn lleied â phosib, byddwn yn gweithio dros nos rhwng 10pm a 3am.

A fydd hyn yn effeithio ar fynediad neu barcio?

Bydd – ar brydiau, efallai y bydd angen i ni atal mynediad dros dro i Park Crescent a Station Road.

Peidiwch â pharcio ar Station Road ar ôl 9pm er mwyn i ni gwblhau’r gwaith hwn yn sydyn ac yn effeithlon.

Os ydych angen mynediad i’ch eiddo yn ystod y gwaith, bydd ein marsialiaid traffig yn eich tywys trwy’r ffordd sydd ar gau.

Cwestiynau? 

Os bydd arnoch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd,

Ffyrdd a Chyfleusterau ar erf@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 25 Mehefin 2021

Gwybodaeth am brosiect cyffordd yr A55

Yn dilyn ein hymholiadau i’r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru na fydd mwy o ffyrdd newydd. Dealltwriaeth y Tîm Prosiect o’r cyhoeddiad  a’r ymholiadau sydd wedi ‘u gwneud yw bod hyn ond yn cyfeirio at dri phrosiect:

Coridor Glannau Dyfrdwy (Llwybr Coch)  o'r ffin Cymru/ Lloegr i'r A55 yn Llaneurgain,  Ffordd osgoi Llandeilo, Trydedd Bont ar draws y Fenai

Wedi dweud hynny, mae pob cynllun yn cael ei adolygu fel rhan o strategaeth i geisio symud gwariant tuag at well cynhaliaeth yn hytrach nag adeiladu ffyrdd newydd.  Mae hyn yn golygu, bod  y tîm yn parhau i symud ymlaen y Gorchmynion drafft trwy Ymchwiliad Cyhoeddus Lleol fel y cyhoeddwyd yn ddiweddar, gyda Chyfarfod Cyn Ymchwiliad yn digwydd ar y 27ain o Orffennaf mis nesaf. 


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 20 Mai 2021

Hoffai Cyngor Tref Llanfairfechan estyn croeso i’n Maer newydd, y Cynghorydd Penny Andow a’i Chydweddog (Consort), Jo Pugh, a'r Dirprwy Faer, y Cynghorydd Chris Jones, a'i Gydweddog, Denise Jones. Rydym ni’n edrych ymlaen at gydweithio er budd y gymuned.

Carem hefyd ddiolch i'r cyn-Faer, y Cynghorydd Delohne Merrell, sy'n ymddeol, a'i Chydweddog, y Cynghorydd Carol Gell, am eu holl waith rhwng Mai 2019 a Mai 2021. Estynnwyd cyfnod eu gwasanaeth oherwydd pandemig Covid-19 ac mae'r ddau Gynghorydd wedi ein helpu i barhau i weithio i amddiffyn ein cymuned a datblygu gwasanaethau a digwyddiadau i hwyluso bywydau trigolion yn y cyfnod heriol hwn.

Ymweliad olaf y ddwy oedd dathliad pen-blwydd Clwb Croquet Llanfairfechan a Gogledd Cymru yn 30 oed ddydd Sul 16 Mai. Ni lwyddodd y tywydd garw i ddifetha'r digwyddiad ac roedd yn braf gallu cwrdd â grŵp ar ôl cyfnod hir o gyfyngiadau.

Delhone and Carol


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 17 Mai 2021

Diolch yn fawr iawn i ‘Llanfairfechan Ddi-blastig’ a'r Cynghorydd Laura Fielding am drefnu'r sesiwn codi sbwriel dros y penwythnos.

Daeth dros 30 o wirfoddolwyr i’r sesiwn dros gyfnod o awr a buont yn casglu bagiau enfawr o sbwriel (cyfanswm o 20), ynghyd â rhai eitemau eraill fan hyn a fan draw.

#MiliwnMilltirILanhauTraethau #LlanfairfechanDdiBlastig

Surfers Against Sewage

Llanfairfechan Ddi Blastig

 

 

 

 

 


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 7 Mai 2021

I'r rhai nad oeddent yn gallu dod i weminar prosiect cyffordd 14/15 yr A55 ddydd Mercher, gallwch ddod o hyd i’r cwestiynau a ofynnwyd a'r atebion trwy’r ddolen hon. Maent ar gael hefyd gan Lywodraeth Cymru trwy https://a55engagement.gov.wales/events.html ac mae fideo'r digwyddiad bellach ar gael i'w wylio.

Nodwch fod Cyngor Tref Llanfairfechan wedi cyflwyno datganiad ffurfiol i Lywodraeth Cymru fel a ganlyn:

Mae Cyngor Tref Llanfairfechan wedi bod yn casglu sylwadau gan breswylwyr ac yn cysylltu â thîm prosiect yr A55 ers cyhoeddi’r Gorchmynion drafft.

Er ein bod yn ymwybodol bod y tîm wedi gwneud eu gorau i fynd i'r afael â phryderon preswylwyr, hoffai'r Cyngor nodi ein gwrthwynebiadau ynghylch y materion canlynol sy'n parhau:

1.    Cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ym Mhen Dalar – nid yw'r mater hwn wedi'i ddatrys mewn modd boddhaol. Rydym ni’n ymwybodol bod tîm y prosiect yn dal i drafod gyda chwmnïau, ond byddai angen datrys y mater hwn neu byddai diffyg cyswllt trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr sylweddol i drigolion ar y pen hwnnw o'r pentref ac yn rhannu'r pentref yn ddwy ran i bob pwrpas. Mae data ar Ddeall Lleoedd Cymru yn nodi bod 34% o'n preswylwyr yn economaidd anweithredol a gallwn allosod y bydd hyn yn cynnwys materion iechyd. Mae ein gwybodaeth leol yn dweud wrthym fod canran sylweddol o drigolion Pen Dalar yn y categori hwn felly mae mynediad yn ffactor hynod bwysig.

2.    Mae gan nifer o drigolion Pen Dalar a Ffordd Penmaenmawr bryderon ynghylch waliau ac ardaloedd caeedig o ganlyniad i'r cynllun ffordd newydd. Effeithir ar lawer o erddi ac mae pryder y bydd sawl eiddo yn y cysgod, yn enwedig yn achos eiddo llawr isaf. Hoffai'r Cyngor Tref dderbyn sicrwydd y bydd unrhyw un o'r strwythurau newydd hyn, os ydynt am fynd yn eu blaen, yn cael eu hadeiladu mewn modd sy’n cydymdeimlo â thrigolion er mwyn lleihau unrhyw effeithiau negyddol.

3.    Cae ysgol Pant y Rhedyn a phroblemau gyda pharcio. Mae'r ysgol a'r adran addysg wedi dweud mai dim ond newydd gael eu hysbysu y maent y byddant yn colli'r defnydd o'u gofodau gwyrdd yn Ysgol Pant y Rhedyn. Mae hyn yn cynnwys caeau chwarae a phrosiect gardd yr ysgol. Mae’n sefyllfa'n anodd iawn i'r ysgol, yn enwedig ar adeg pan mae gofyn i ddisgyblion gadw pellter cymdeithasol, ac ni allwn ragweld pa mor hir fydd y sefyllfa yn parhau. Ni fydd y cynllun arfaethedig i symud safle'r ysgol yn digwydd mewn pryd ar gyfer cynllun arfaethedig y cyffordd, felly amcangyfrifir y gallai'r ysgol fod heb ofodau gwyrdd am sawl blwyddyn ac mae hyn yn achos pryder mawr i’r cynghorwyr tref. Rydym ni’n ceisio eglurder ynglŷn â sut yn union yr effeithir ar y gofodau gwyrdd, ac am ba hyd y bydd yr ysgol yn methu â gwneud defnydd o’r gofodau.

4.    Mae pryder ynghylch cyrraedd a gadael y pentref yn ystod y gwaith ffordd. Mae dros 80% o bobl gyflogedig yn teithio o'r pentref i weithio, felly mae’n bryder teilwng. Yn ogystal, mae trigolion wedi nodi bod Ffordd Aber yn gorlifo yn rheolaidd ar hyn o bryd ac, er y byddai'r prosiect ffordd yn gwella cyffordd 14 yn sylweddol, gallai llifogydd yn y fan hon barhau i rwystro mynediad i'r pentref.

Yn ogystal â’r gwrthwynebiadau penodol hyn, mae'r Cyngor Tref wedi trafod, er y byddai'r llwybr teithio actif yn ychwanegiad i'w groesawu'n fawr, mae ôl troed carbon gwaith y cynllun ffyrdd yn bryder gwirioneddol. Mae cynghorwyr wedi holi, yn y cyfnod ôl-Brexit ac ôl-Covid, a oes modd cyfiawnhau'r cynllun hwn o ystyried cyd-destun yr argyfwng newid hinsawdd? Gellid dadlau bod parhau â phrosiect ffordd ar yr adeg hon yn groes i ‘Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021’ a datganiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cydnabod yr Argyfwng Hinsawdd.

Rhaid i ni bwysleisio ein bod yn credu bod pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar ein gallu i ymgynghori’n iawn â thrigolion, ac yn benodol y rhai nad ydynt ar-lein ac sy’n dal i hunanynysu gartref oherwydd y feirws. Gobeithiwn y bydd y broses statudol yn ystyried y cyfnod eithriadol rydym ni’n canfod ein hunain ynddo ar hyn o bryd.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 26 Ebrill 2021

Cyllideb Llanfairfechan a gwybodaeth am lwfansau

Hoffai Cyngor Tref Llanfairfechan gadarnhau nad yw’r 13 Cynghorydd Tref yn cael eu talu am eu gwaith ac mai dim ond lwfans o £150 y flwyddyn y mae ganddyn nhw’r hawl i’w hawlio ar gyfer treuliau. Mae gennym ni grŵp o gynghorwyr gweithgar iawn sy'n ymwneud â llawer o wahanol agweddau ar weithgareddau cymunedol.

Yn 2020/21 dyrannwyd ein cyllideb o £100,000 ar nifer o weithgareddau cymunedol ac i gynnig grantiau i grwpiau cymunedol. Ar hyn o bryd mae gennym ni ddau Gynghorydd Tref sydd hefyd yn gynrychiolwyr ar y Cyngor Sir, ac maent yn cael eu talu am eu gwaith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) fel cynrychiolwyr CBSC. Mae'r holl fanylion cyswllt a manylion ward ar gyfer Cynghorwyr Tref a chynrychiolwyr CBSC i'w gweld yma.

Prosiect Covid-19 Canol Tref Llanfairfechan

Diolch i bawb a helpodd i osod dau gazebo cyntaf y Cyngor Tref yn The Village Inn a Split Willow. Gyda diolch i Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu cymorth wrth ddarparu cyllid ar gyfer y prosiect hwn.

#CefnogiBusnesauLlanfairfechan

Bydd sesiynau prosiect yn cychwyn yn fuan – yn ddibynnol ar reoliadau Covid-19 

  


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 21 Ebrill 2021

PWYSIG Mae'n bosib ciwio yn anffurfiol ymlaen llaw, ond peidiwch â disgwyl y sgipiau cyn 9am.

Ewch ati i lawrlwytho’r poster yma


Lampau stryd diffygiol

Mae CBSC a'r Cyngor Tref wedi bod yn cydweithio i geisio datrys y broblem gyda lampau stryd tuag at yr orsaf ac yn ardal maes parcio'r promenâd. Erbyn hyn gwyddwn fod nam mawr a allai gymryd peth amser i'w ddatrys. Bydd angen i'r gwaith hwn gael ei gwblhau gan Scottish Power ac mae wedi'i nodi fel mater o frys. Bydd cyfarfod ar y cyd ar y safle yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos nesaf. 


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 19 Ebrill 2021

Dogfen y gellir ei lawrlwythoo


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 16 Ebrill 2021

Diolch i drigolion hael Llanfairfechan a Charles Gershom, a gwirfoddolwr o Gymuned Medr Llanfairfechan, mae tri gliniadur wedi'u hadnewyddu a’u rhoi i'r ysgolion yn Llanfairfechan ac mae gwaith yn cael ei wneud ar ragor o liniaduron ar hyn o bryd. Mae'r ysgolion ar y trywydd iawn i gyrraedd eu targed o ddarparu offer TG 1:1 i’r holl ddisgyblion.

Meddai’r Pennaeth Matthew Jones 'Rydym ni wedi gwneud cynnydd enfawr gyda'n bwriad i ddarparu dyfeisiau 1:1 ar gyfer disgyblion yn Llanfairfechan ac mae'n deg dweud bod hyn yn rhywbeth y byddwn ni’n parhau i weithio tuag ato yn y dyfodol. Diolch i chi am ein helpu i gyflawni’r nod. Hefyd rhoddodd Cyngor Tref Llanfairfechan grant cymunedol o £3000 tuag at y prosiect TG i ddarparu 7 Chromebook ar gyfer yr Ysgol Fabanod a 7 Chromebook ar gyfer Ysgol Pant y Rhedyn, a bu hyn o gymorth yn ystod cyfnodau clo Covid-19.

Os oes gennych chi unrhyw liniaduron sy'n iau na 5 oed ond nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio mwyach, gofynnwn i chi ystyried cyfrannu at y prosiect. Bydd eich data yn hollol ddiogel gan fod pob gyriant caled naill ai'n cael ei ddinistrio neu’n cael ei ddychwelyd yn ôl dymuniadau’r perchennog.

Cysylltwch â Chlerc y Dref ar jayne@llanfairfechan.net os allwch chi helpu. Yn y llun mae'r Maer Delohne Merrell, Pennaeth Matthew Jones a Charles Gershom.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 14 Ebrill 2021

Mae ein tudalen Dogfennau Strategol yn cynnwys gwybodaeth am grantiau a roddwyd yn 2020/21, y broses ymgeisio ar gyfer 2021/22 yn ogystal â’r rheolau a’r gyllideb arfaethedig ar gyfer 2021/22.

Cliciwch yma am fanylion


Mae Cyngor Tref Llanfairfechan wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddarparu dŵr i Fynwent Erw Feiriol. Roedd hon yn broses ychydig yn hirach na'r disgwyl gan fod y pandemig Covid-19 wedi effeithio ar y gwaith. Mae tap wedi'i osod ond rydym ni’n aros am ychydig mwy o waith er mwyn gwneud y cysylltiad.

Rydym ni wedi cysylltu â'r holl gontractwyr yn rhoi pwysau arnynt i gwblhau’r gwaith hwn cyn gynted ag y bo modd, ond gofynnwn i chi fod yn amyneddgar tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen.  


Yn unol â deddfwriaeth newydd (Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021) byddwn ni bellach yn rhannu cofnodion drafft cyn pen 7 diwrnod yn dilyn cyfarfodydd y Cyngor Tref. Cliciwch yma am fanylion


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 31 Mawrth 2021


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 29 Mawrth 2021

  


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 24 Mawrth 2021

Mae gorchmynion drafft ar gyfer gwelliannau i Gyffordd 14 ac 15 yr A55 bellach wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru ac maent ar gael i'w gweld ar-lein yma, gyda rhagor o wybodaeth ar gael yma

Mae mynediad at gopïau papur wedi’i gyfyngu oherwydd Covid-19 ond gall unrhyw un nad oes ganddynt fynediad i’r wybodaeth ar-lein gysylltu â Swyddog Cyswllt Cyhoeddus y Cynllun, Mike Gilbert, ar 07840 330238 neu anfon e-bost at A55J15J16@Ramboll.com. Trefnir archebion yn unol â chanllawiau iechyd a diogelwch llym Covid-19. Mae mapiau a gwybodaeth hefyd yn ffenestr Neuadd Gymunedol Llanfairfechan er mwyn hwyluso’r broses ymgynghori hon.

E-bostiwch Glerc y Dref jayne@llanfairfechan.net gydag unrhyw ymholiadau i’r Cyngor Tref.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 17 Mawrth 2021

Hoffai’r Cyngor Tref a Phwyllgor Neuadd Gymunedol Llanfairfechan sicrhau trigolion bod y diffibriliwr yn y Neuadd Gymunedol yn gweithio, ei fod wedi'i gofrestru ar systemau Ambiwlans Cymru ers cryn amser a'i fod wedi'i ddefnyddio sawl gwaith. Rydym ni wedi ein cynghori, er mwyn defnyddio'r offer yn effeithiol, y dylai’r cod aros yn nwylo Ambiwlans Cymru gan mai dim ond ar y cyd â galwad 999 y dylid defnyddio'r diffibriliwr.

Rydym ni wedi cysylltu â rheolwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru a chafwyd cadarnhad bod pawb sy’n derbyn galwadau yn cael hyfforddiant cyfredol misol a bod gwybodaeth am y diffibriliwr wedi’i chynnwys yn y sesiynau hyn.

Hoffai Cyngor Tref Llanfairfechan atgoffa trigolion bod modd cysylltu â’r Cyngor ar 01248 681697 neu drwy e-bostio Clerc y Dref jayne@llanfairfechan.net

Mae gennym ni hefyd dudalen Facebook Cefnogaeth Stryd Llanfairfechan: https://www.facebook.com/streetsupportllanfairfechan

Poster Cymraeg

Poster English 

   


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan 11 Mawrth 2021

Yn ddiweddar, cyfarfu Cyngor Tref Llanfairfechan â Rheolwr Ymgysylltu’r Cyfrifiad dros Ogledd Orllewin Cymru, a chafwyd sicrwydd bod cymorth ar gael i gwblhau Cyfrifiad 2021. Cofiwch ei fod yn ofyniad cyfreithiol i gwblhau’r cyfrifiad. Mae'r wybodaeth a gesglir yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn diwallu anghenion yr ardal leol.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth o gyfrifiad 2011 er mwyn gweld pa mor ddefnyddiol yw’r data a gesglir – data cyfrifiad 2011 ar gyfer Llanfairfechan

Yn eich pecynnau cyfrifiad mae rhif unigryw y mae'n rhaid i chi ei ddefnyddio ar gyfer eich ffurflen gyfrifiad ar-lein. Os nad oes modd cwblhau’r cyfrifiad ar-lein, cysylltwch dros y ffôn am ddim: 0800 169 2021 (ar gael yn Gymraeg neu’n Saesneg) i ofyn am fersiwn papur, ond bydd nifer fawr o alwadau ac efallai y bydd yn rhaid aros yn hir.

Mae llenwi'r ffurflen ar-lein yn broses gyflym a syml felly ceisiwch wneud hyn os allwch chi - efallai y gall aelod o'r teulu neu ffrind helpu gyda'r broses?

Os ydych chi'n poeni am y cyfrifiad, cysylltwch â ni ar 01248 681697 a byddwn yn trosglwyddo'ch sylwadau i'n swyddog cyswllt tîm Cyfrifiad 2021.

 


 

Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan Dydd Llun 22 Chwefror 2021

Mae’n bleser cyhoeddi canlyniad yr isetholiad diwrthwynebiad yn ward Bryn. Byddwn yn croesawu ein cynghorwyr newydd yng nghyfarfod y Cyngor Tref ddydd Mercher 17 Mawrth 2021.

  

Yn Gymraeg

Yn Saesneg

I gael manylion pellach, cysylltwch â Chlerc y Dref ar jayne@llanfairfechan.net


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan Dydd Llun 19 Chwefror 2021

Mae'r Cyngor Tref yn ymwybodol o bryder sylweddol ymhlith trigolion am yr anghyfleustra a achosir gan waith ar bont reilffordd Ffordd yr Orsaf. Mae CBSC wedi bod i archwilio’r safle ac maent yn cytuno bod angen ehangu'r ffordd islaw yn ystod cyfnod y gwaith – cysylltwyd â Network Rail am y mater hwn. Yn ogystal, mae CBSC wedi gwneud trefniadau arbennig ar gyfer codi sbwriel tra bod y gwaith hanfodol hwn ar y rheilffordd yn mynd yn ei flaen. Yn y cyfamser, rydym ni’n annog cerddwyr i gymryd gofal arbennig yn yr ardal gan fod y llwybrau troed yn gul ac mae'r gwelededd ar y ffordd yn wael.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan Dydd Llun 15 Chwefror 2021

Bydd etholiadau a ohiriwyd yn mynd yn eu blaen fel a ganlyn:


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, dydd Mercher Chwefror y 3ydd 2021

Roedd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth CBSC yn bresennol yng nghyfarfod Cyngor Tref Llanfairfechan ar ddydd Mercher, Chwefror y 3ydd i adrodd am waith ym maes parcio’r promenâd.

Fe gysylltwyd gyda chontractwyr i gynnal gwaith atgyweirio yn y maes parcio ond maen nhw wedi gwrthod oherwydd lefel y difrod. Yn dilyn ymweliad gan CBSC i’r maes parcio’n ddiweddar, bu iddyn nhw gydnabod nad oedd modd iddyn nhw ddwyn i ystyriaeth gwaith atgyweirio mwyach a bod angen ailwampio’r maes parcio yn gyfan gwbl. Mae arolwg wedi’i drefnu ac mae cynlluniau i fynd ati gyda’r gwaith ar frys. Byddwn yn penderfynu ar ffrwd cyllid i dalu am y gwaith sylweddol hwn ac mae’n bosib y bydd angen talu am beiriannau Talu ac Arddangos newydd hefyd. Soniwyd mai’r maes parcio ar y promenâd ydy’r unig faes parcio am ddim ar yr arfordir yn y sir.

Mae CBSC yn ymwybodol o’r effaith ar y trigolion. Mae’r Cyngor Tref wrthi’n trafod talu am drwyddedau i drigolion a bydd llefydd parcio wedi’u neilltuo i breswylwyr ger y maes parcio yn unig. Bu i’r Cyngor Tref hefyd ofyn am newidiadau i’r mynediad i gerddwyr i ofalu bod llwybr diogel i gadeiriau olwyn a phramiau o ochr y ffordd. Gofynnodd y Cyngor Tref hefyd am osod pwyntiau gwefru trydanol yno. Rydym yn gobeithio manteisio ar gyllid allanol i gwblhau’r rhan yma o’r gwaith.

Mae’r maes parcio ar gau ar hyn o bryd yn sgil Covid-19. Unwaith y bydd yn ail-agor, mae’n bosib y bydd yn rhaid cadw rhai mannau wedi’u difrodi ar gau nes bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Byddwn yn trafod y mater ymhellach unwaith caiff y cynllun gwaith ei gyflwyno. Fe fydd CBSC yn bresennol yng nghyfarfod y Cyngor Tref unwaith y bydd y cynllun ar gael.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, dydd Mercher Chwefror y 3ydd 2021


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Ionawr yr 28ain 2021

Gwelwch y diweddaraf gan Feddygfa Plas Menai – mae hwn yn opsiwn newydd ar gyfer manteisio ar wasanaethau Plas Menai.

Gallwch fanteisio ar wasanaeth e ymgynghori bob awr o’r dydd drwy glicio’r ddolen isod: https://plasmenaihealthcentre.webgp.com/  Bydd hyn yn golygu na fydd angen ichi ffonio’r feddygfa os oes angen ymgynghoriad arnoch chi. Gallai’r feddygfa hefyd anfon eich gohebiaeth ar e-bost er eich cofnodion personol chi. 

Ni fydd y gwasanaeth e ymgynghori yn lle’r system ffôn. Fel claf, bydd modd ichi ddal ati i gysylltu gyda’r feddygfa os oes angen. Mae e ymgynghori yn cynnig gwasanaeth cyfoes sy’n ategu’r dulliau cysylltu blaenorol. Os oes gennych chi gysylltiad gwe a ffôn neu gyfrifiadur, rydym yn eich annog i roi cynnig arni gan ei fod yn ffordd gyfleus ac effeithiol i fodloni eich anghenion iechyd.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Ionawr y 25ain 2021

Fe fydd Cyngor Tref Llanfairfechan yn dathlu Dydd Santes Dwynwen ar-lein yn sgil y pandemig presennol.

Os hoffech chi ymuno yn y dathlu, anfonwch eich neges at ein tudalen yma

Neges gan Wasanaethau Parcio CBSC:

Byddwn yn cau rhai meysydd parcio er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws drwy deithio diangen. Dyma gais gan Heddlu Gogledd Cymru.

Conwy Morfa

Llanfairfechan – Y Promenâd

Penmaenmawr – Y Promenâd

Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth: parking@conwy.gov.uk


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Ionawr yr 22ain 2021

Mae’n bleser gan Gyngor Tref Llanfairfechan a Phwyllgor y Neuadd Gymunedol gydweithio gyda Chanolfan Iechyd Plas Menai gan helpu cynnig y brechiad Covid-19 i drigolion ein cymuned.

Mae’r gwaith ar y gweill eisoes ac mae’r feddygfa yn brechu mor gyflym â phosib fel daw’r cyflenwadau o frechlyn. Bydd y feddygfa’n cysylltu gyda chleifion pan for’r brechlyn ar gael ac maen nhw wedi sicrhau na fyddan nhw’n anghofio am unrhyw un. Mae’r ddogfen am newyddion diweddaraf Canolfan Iechyd Plas Menai ar gael yma.

NODYN PWYSIG: Os ydych chi’n derbyn llythyr penodol gydag apwyntiad i’r Ganolfan Frechu Torfol, fe ddylech chi fynychu’r apwyntiad hwnnw yn hytrach na disgwyl galwad gan y feddygfa. O ganlyniad, byddwch yn derbyn y brechiad cyn gynted â phosib.

Mae dogfen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda’r Diweddaraf am Strategaeth Brechiadau Covid-19 Ionawr 2021 ar gael ar-lein a gallwch ei lawr lwytho yma.

 


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Ionawr y 14eg 2021

Bu i GBSC roi gwybod inni fod y tai bach ar y promenâd ar gau oherwydd fandaliaeth. Mae’n rhaid gosod cloeon newydd ac mae gweithwyr wrthi’n cynnal gwaith atgyweirio ond ni fydd modd defnyddio’r tai bach yn ystod y cyfnod hwn.

Bu hefyd adroddiadau o dipio anghyfreithlon a mwy o faw ci nag arfer.

Gofynnai Cyngor Tref Llanfairfechan, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn, ein bod ni i gyd yn cydweithio er mwyn gofalu bod ein strydoedd yn ddiogel ac yn lân. Gyda bod brechiadau ar y gweill, mae gobaith y byddwn yn gallu dychwelyd i fyw bywydau arferol eto’n fuan iawn. Bu ein cymuned yn wych am gydweithio i warchod ein preswylwyr bregus. Gofynnwn yn garedig ichi barhau gyda’ch ymdrechion i ofalu am eich gilydd a thref fendigedig Llanfairfechan yn ystod y misoedd sy’n weddill.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Ionawr yr 11eg 2021

Ar ddydd Sul, Ionawr y 10fed 2021, bu i breswylydd o Lanfairfechan ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed. Hoffai Gyngor Tref Llanfairfechan ddymuno’r gorau i Lily Jones. Fe gafodd y Faeres Delohne Merrell sgwrs arbennig dros y ffôn gyda Lily ddydd Sul gan ddymuno pen-blwydd hapus iddi. Ymysg sawl peth arall, mae Lily yn enwog yn Llanfairfechan am ymddangos mewn llun ar gardyn post. Fe werthodd miloedd o gopïau o’r cardyn post hwn dros flynyddoedd maith. Dyma’r llun gwreiddiol ac rydym yn gobeithio na fydd ots gan Lily ein bod ni’n dweud y cafodd pob un o’r modelau dâl o ddeg swllt am ymddangos yn y llun.

Lily ydy’r un ar y dde yn y llun.

Cysylltwch gyda ni ar 01248 681697 neu anfonwch e-bost at Glerc y Dref jayne@llanfairfechan.net os wyddoch chi am unrhyw un arall sy’n 100 oed inni allu dathlu eu pen-blwyddi nhw hefyd.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Ionawr y 7fed 2021

Treuliodd Cyngor Tref Llanfairfechan beth amser yn ceisio meddwl am ddatrysiad ar gyfer Maes Parcio’r Promenâd:

  • 2014/15 - Yn dilyn arolwg i breswylwyr, bu iddyn nhw anghytuno i’r Cyngor tref gymryd yr awenau dros y maes parcio

  • Bu i GBSC barhau gyda’r gwaith gosod peiriannau Talu ac Arddangos mewn meysydd parcio eraill yn y sir. Maes Parcio Promenâd Llanfairfechan ydy’r unig faes parcio arfordirol y sir lle nad oes angen talu ac arddangos.
  • 2020 - Bu i GBSC roi gwybod y byddai gosod peiriannau Talu ac Arddangos yn fodd i GBSC ailwampio’r maes parcio ar unwaith a chaiff llefydd parcio i breswylwyr yn y cyffiniau eu diogelu.
  • Mae’r Cyngor Tref yn anghytuno y dylid codi am barcio yn y maes parcio ar hyn o bryd. Soniwyd bod sawl opsiwn posib ar gyfer cyllid allanol oherwydd gwaith y gymuned ar y cynigion Cynllun Datblygu Lleol a’r gwaith ar Gyffordd yr A55.
  • Chwefror – bu i GBSC gytuno i gyflawni gwaith atgyweirio dros dro ar y maes parcio er mwyn gofalu ei fod yn addas i’w ddefnyddio nes caiff datrysiad hirdymor ei bennu. Mae’r gwaith wedi’i oedi yn sgil Covid-19.
  • 2021 – y Cyngor Tref wedi cynllunio arolwg i breswylwyr a bydd trafodaethau pellach gyda CBSC ar sail ymateb y preswylwyr.

Byddwn yn cyflwyno ein harolwg yn fuan. Gofynnwn yn garedig ichi ymateb iddo unwaith y bydd ar gael er mwyn inni allu casglu barn fwyafrifol gywir i fynd rhagddi gyda’r gwaith.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Ionawr y 6ed 2021

Blwyddyn Newydd Dda

Y diweddaraf am Wasanaethau Cyngor Conwy. Cliciwch yma.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Rhagfyr yr 17eg 2020

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth Ffenest Siop Nadolig – mae pob un ffenest yn edrych yn fendigedig eleni.

Enillydd y gystadleuaeth oedd Sangeeta Hair Designs a dyma lun o’r seremoni wobrwyo yn ystod y digwyddiad siopa’ hwyr:

Dyma lun o Sangeeta gyda’r Faeres Delohne Merrell a’i Chymhares Carol Gell, y Dirprwy Faeres Penny Andow a’r Cyng. Chris Jones o dîm Rheoli Argyfyngau Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan

Gallwch fwrw golwg ar albwm lluniau Facebook o’r holl ffenestri yma

Cofiwch fod yna un noson o siopa’ hwyr yn weddill ar ddydd Mercher, Rhagfyr y 23ain tan 7yh

#CefnogiBusnesauLleol


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Rhagfyr y 15fed 2020

Gallwch fynd ati i geisio am Grantiau Cymunedol Cyngor Tref Llanfairfechan Ionawr 2020/21 o hyn ymlaen ac rydym yn croesawu ceisiadau grant yn arbennig gan grwpiau cyfansoddiadol sy’n helpu’r gymuned drwy gydol y Pandemig Covid-19.

Mae’r Ddeddfwriaeth yn datgan fod yn rhaid i’r cyllid fynd tuag at brosiectau sy’n gwella iechyd a lles yng nghymuned Llanfairfechan. Sylwch bu inni roi proses ymgeisio ac adroddi trwyadl ar waith er mwyn sicrhau tryloywder o ran defnydd y grantiau hyn. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y rownd hon am 9yb ar ddydd Gwener, Ionawr y 15fed.

Gallwch lawr lwytho’r holl fanylion a ffurflenni yma neu drwy glicio’r ddolen at ein tudalen Dogfennau Strategol.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Rhagfyr yr 11eg 2020

 

Yn 2018, aeth Cyngor Tref Llanfairfechan rhagddi gyda phrosiect i leihau baw ci ar y strydoedd. Rydym yn dal yn cynnig blychau a bagiau baw ci. Rydym yn gofyn i bawb sy’n berchen ar gi i’n helpu i gadw’r strydoedd yn lân drwy gofio bagiau baw ci a glanhau ar ôl eu ci. Mae’r gaeaf bob amser yn gyfnod heriol oherwydd y nosweithiau tywyll. Parhewch i fod yn wyliadwrus a chofiwch bod croeso ichi gymryd bag ychwanegol rhag ofn bydd argyfwng. Cofiwch fod bagiau baw ci ar gael ger biniau cyhoeddus du CBSC.

Mae system Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn adrodd am faw ci ar waith yma. Mae’r system yn fodd inni gofnodi mannau sydd o bryder a mynd i’r afael gydag unrhyw broblemau. I ein helpu ni gyda’n prosiect, bu inni dderbyn bocs o flychau bagiau baw ci gan GBSC. Mae’r Cyngor Tref bob amser yn cofio prynu rholiau ychwanegol er mwyn gofalu bod y blychau bagiau’n llawn drwy gydol y flwyddyn.

#DiogeluEinCymuned


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Rhagfyr y 1af 2020

I gefnogi Goleuo Llan yn ystod y pandemig C-19, bu i Gyngor Tref Llanfairfechan drefnu coed Nadolig solar yn lle’r addurniadau eleni. Byddwn yn goleuo’r rhain ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr y 5ed. Cofiwch gadw lle i’ch plentyn ar gyfer Siôn Corn y Clwb Rotari drwy ddefnyddio’r manylion cadw lle ar y poster isod:


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Tachwedd yr 17eg 2020

Hoffai Gyngor Tref Llanfairfechan estyn llongyfarchiadau i Stephanie Moores a’r tîm yn Ward Foelas.

Cyfarwyddyd COVID-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – 12/11/2020:

Bu i nyrs amryddawn dderbyn gwobr arbennig am ei gwaith diflino i wella gofal arbenigol i bobl gydag anableddau dysgu. Bu i Stephanie Moores, Dirprwy Brif Nyrs ar Ward Anableddau Dysgu Foelas yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, ennill ein Gwobr Seren Betsi diweddaraf.

Fe sefydlwyd y wobr yn 2016 ac mae’n anrhydeddu gwaith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr GIG Gogledd Cymru. Mae Ward Foelas yn cynnig gofal arbenigol i hyd at wyth oedolyn gydag anableddau dysgu ac anghenion iechyd dwys. Bu i dîm y ward ddal ati i gynnig gofal arbenigol sy’n canolbwyntio ar y person drwy gydol y pandemig COVID-19.

Dyma lwyddiant diweddaraf tîm Ward Foelas, yn dilyn derbyn achrediad Rhwydwaith Ansawdd ar gyfer Anableddau Dysgu gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. Y llynedd bu’r tîm ragori yn erbyn cannoedd o enwebiadau ledled Prydain i ymddangos ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nyrsio Anableddau Dysgu mawreddog y Nursing Times.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Tachwedd yr 11eg 2020

Cylchoedd Pêl Fasged ar gyfer yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd

Diolch yn fawr iawn i’r preswylydd John Stanley Williams am helpu i osod cylchoedd pêl fasged newydd yn lle’r hen rai ar yr ardal gemau aml-ddefnydd yn y cae chwarae.

Bu inni allu cyflenwi cylchoedd pêl fasged newydd a bu i John eu gosod yn garedig inni. Roedd y cylchoedd gwreiddiol wedi’u gosod ers llai na blwyddyn ond bu i bobl ddringo arnyn nhw a’u torri.

Gofynnwn i bawb ddefnyddio’r cylchoedd yn briodol er mwyn gofalu bod  modd i drigolion y dref barhau i ddefnyddio’r cyfleuster pwysig hwn.

     

Cronfa Rhagoriaeth Conwy – gwybodaeth am y cyllid

  


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Tachwedd yr 8fed 2020

Bu i Gyngor Tref Llanfairfechan drefnu digwyddiad gosod torchau amgen er mwyn cydymffurfio gyda chyfyngiadau Covid-19. Diolch yn fawr i’r Faeres Delohne Merrell, a’i chymar y Cyng. Carol Gell, y Dirprwy Faeres Penny Andow a’i Chymhares Jo Pugh yn ogystal â Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Sara Owen am ein helpu i ddathlu Sul y Cofio 2020 yn ddiogel. Diolch hefyd i wirfoddolwyr TV Conwy am yr holl waith tynnu lluniau a golygu.

Dilynwch y ddolen hon i’n cyhoeddiad Facebook i weld y sioe sleidiau cyflawn.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Tachwedd y 4ydd 2020

Mae Cyngor Tref Llanfairfechan yn cydweithio gyda’r Parchedig Rosie Dymond o Eglwys Santes Fair a Christ yn Llanfairfechan i gynnig gwasanaeth amgen i’n gwasanaeth Sul y Cofion arferol yn y senotaff:

Gwasanaeth Sul y Cofio ar-lein ar Zoom am 10yb ar Dachwedd yr 8fed

Côd Adnabod y Cyfarfod Zoom: 348 348 1901

Cyfrinair: Poppy

Rydym yn gofyn i’r holl drigolion ddod ynghyd ar eu stepen drws am 11yb am ddau funud o ddistawrwydd. Bydd clychau eglwys Llanfairfechan yn canu wedi i’r ddau funud ddod i ben. 

11.15yb: Byddwn yn cyflwyno ein sioe sleidiau o dorchau ar-lein ar wefan Cyngor Tref Llanfairfechan ac ar Hysbysfwrdd Llanfairfechan.

Fe fydd Ymgyrch Pabïau 11/11 Llanfairfechan ar-lein ar:

http://www.justgiving.com/.../pleasesponsor/LlanfairfechanTC

Bu inni lwyddo i gasglu £140.00 hyd yn hyn tuag at y Lleng Brydeinig Frenhinol. Gofynnwn yn garedig ichi fwrw golwg ar ffenest ein Neuadd Gymunedol i weld y pabïau sydd wedi creu ac i ymuno gyda’n hymgyrch.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Hydref y 30ain 2020

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Cyfyngiad Cyflymder 20mya – Amryw Ffyrdd) Gorchymyn 2020 (Arbrofol)

Mae’r gorchymyn hwn yn berthnasol i’r ardal ger Ysgol Pant y Rhedyn.  Mae Cynghorwyr Tref Llanfairfechan yn cytuno y byddai newid y cyfyngiad cyflymder i 20mya yn fodd o ofalu am ddiogelwch teuluoedd yn Llanfairfechan. Rydym yn croesawu’r newidiadau arfaethedig ac rydym yn gobeithio y bydd yn help i leihau’r pryderon ynghylch traffig ar Ffordd Penmaenmawr:

Ysgol Pant y Rhedyn Llanfairfechan            Ffordd Penmaenmawr

O safle sy’n 10 medr i’r de ddwyrain o’r gyffordd lle mae Shore Road East am 215 medr.

Cymrwch olwg ar y wybodaeth ganlynol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

Bu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyflwyno’r Gorchymyn uchod o dan adran 9 a 10 y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 lle caiff cyfyngiad cyflymder o 20mya ei osod. Bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar Dachwedd yr 2il 2020. Gallwch fwrw golwg ar gopi o’r Gorchymyn, ynghyd â chynlluniau sy’n dangos y ffyrdd y mae’r gorchymyn yn berthnasol iddyn nhw, ar wefan y Cyngor. At hyn, mae datganiad o resymau’r Cyngor am gyflwyno’r Gorchymyn yno hefyd. Gallwch ofyn am gopïau caled o’r dogfennau drwy gysylltu gyda 01492 575420.

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno sylwadau, i wrthwynebu neu gefnogi’r Gorchymyn cyn y byddai’n barhaol, eu cyflwyno’n ysgrifenedig yn datgan eu rhesymau ymhen 6 mis ers i’r Gorchymyn Arbrofol ddod i rym. Anfonwch eich sylwadau at yr Adran Draffig, Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, PO Box 1 Conwy LL30 9GN neu at traffic@conwy.gov.uk.

Os hoffech chi herio dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth ynghlwm ar y sail nad ydyw’n cyd-fynd â phwerau’r Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mae croeso ichi wneud hynny ymhen 6 wythnos o’r dyddiad hwn gan anfon cais at yr Uchel Lys.

Hoffem hefyd estyn diolch i TV Conwy am helpu i godi ymwybyddiaeth o newidiadau sydd ar y gweill i amryw ffyrdd yng Nghonwy er mwyn gofalu eu bod yn fwy diogel. 


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Hydref y 26ain 2020

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ymuno gyda Chalan Gaeaf Llanfairfechan 2020 a diolch yn arbennig i’r preswylwyr, Ashley, Hayley a Sacha wnaeth feddwl am y syniad ar gyfer y digwyddiad Calan Gaeaf gwahanol hwn. Diolch hefyd i Ceri a Charnifal Llanfairfechan. Mae’r prosiect hwn yn berthnasol rŵan yn enwedig gan fod Cyfnod Atal Byr mewn lle. Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau yn ystod eu Calan Gaeaf o Gartref – mae bob math o syniadau hwyl ar y dudalen Facebook.

Bu i Gyngor Tref Llanfairfechan a Heddlu Gogledd Cymru ariannu’r gystadleuaeth pwmpenni ar y cyd. Hoffem atgoffa pawb i arddangos eu pwmpenni yn eu ffenestri ar gyfer y llwybr Calan Gaeaf. Diolch yn fawr i Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Sara Owen am drefnu cyllid Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT). Diolch hefyd i bawb wnaeth gyfrannu at Fanc Bwyd Llanfairfechan yn gyfnewid am bwmpen – roedd yr ymateb yn wych:


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Hydref yr 21ain 2020

Gwelwch y poster isod yn dangos sgipiau diwygiedig a gwybodaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am wasanaethau cyfredol

Lawr lwytho’r Ddogfen

Newyddion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Y Sefyllfa Gyfredol 20/10/20

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Tŷ

Bydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Tŷ ar gau o ddydd Sadwrn, Hydref y 24ain tan ddydd Sul, Tachwedd yr 8fed yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru. Gallwch drefnu apwyntiad o ddydd Llun, Tachwedd y 9fed ymlaen: https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Recycling-and-Waste/Recycling-banks-and-household-recycling-centres/Book-an-appointment-for-the-Household-Recycling-Centre.aspx

*Nid oes unrhyw newid i’ch casgliadau gwastraff ac ailgylchu arferol.

Canolfannau Hamdden

Gan gydymffurfio gyda chyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru, byddwn yn cau ein canolfannau hamdden am 18.00 ar ddydd Gwener, Hydref y 23ain 2020 tan ddydd Llun, Tachwedd y 9fed 2020.

Rydym wedi siomi bod angen inni gau ein drysau unwaith eto ond rydym yn parhau i ymdrechu hyd eithaf ein gallu i gefnogi cymunedau Conwy yn ystod y cyfnod heriol hwn. Byddwn yn cyflwyno mwy o wybodaeth maes o law. Cadwch yn saff, cadwch yn heini.

Llyfrgelloedd

Byddwn yn cau ddydd Gwener er mwyn cydymffurfio gyda rheolau’r Cyfnod Atal Byr. Gofalwch bod gennych chi ddigonedd o lyfrau i’w darllen drwy Alw a Chasglu neu drefnu sesiwn pori’r wythnos yma! 01492 576139 https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Libraries-Museums-and-Archives/Libraries/Libraries.aspx

Cyfnod Atal Byr – Cwestiynau Cyffredin https://gov.wales/coronavirus-circuit-break-frequently-asked-questions

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch y feirws, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru https://icc.gig.cymru/ i weld y cyngor diweddaraf.

Rydym yn cydweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r gwasanaethau brys er mwyn gofalu bod trefniadau priodol a chymesur mewn lle.

Byddwn yn parhau i gydymffurfio gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Prydain ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ewch i’n gwefan https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Coronavirus-Covid-19/Coronavirus.aspx


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Hydref y 14eg 2020


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Hydref y 6ed 2020

Rhaglen Ffôn Covid-19 y GIG

Mae rhaglen ffôn COVID-19 y GIG yn rhan annatod o’n rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu er mwyn rheoli lledaeniad Covid-19. Gorau po fwyaf o bobl sy’n ei ddefnyddio er mwyn lleihau lledaeniad y feirws cymaint â phosib.

Bydd y rhaglen ffôn yn cynnig y canlynol:

  • Bydd yn rhoi gwybod ichi os ydych chi wedi bod yn agos at rywun sydd â symptomau coronafeirws erbyn hyn
  • Bydd yn cynnig cyngor sy’n berthnasol ichi ynghylch y coronafeirws
  • Bydd yn fodd ichi wirio’ch symptomau
  • Bydd yn rhannu cyfeiriad gwefan lle gallwch drefnu prawf os oes gennych chi symptomau
  • Bydd yn cynnig amserydd cyfrif amser hunan-ynysu os oes angen
  • Beth ydy buddion y rhaglen ffôn i unigolion?

Y rhaglen ffôn hon ydy’r ffordd cyflymaf i ddefnyddwyr weld ydyn nhw mewn peryg o ddal y coronafeirws. Bydd yn fodd i ddefnyddwyr (gyda ffôn clyfar) i wirio eu symptomau, archebu profion a derbyn canlyniadau a chyngor. Bydd hefyd yn cynnig rhybuddion ichi hunan-ynysu os ydy defnyddwyr wedi bod yn agos at rywun gyda choronafeirws. Mae hefyd system ‘rhybuddio’ sy’n dangos lefel risg eu hardal nhw i ddefnyddwyr. Bydd y rhaglen ffôn ar gael i bobl ei lawr lwytho o Fedi’r 24ain.

Gofynnwn yn garedig ichi ein cynorthwyo i leihau lledaeniad Covid-19 yn ein cymuned drwy lawr lwytho’r rhaglen ffôn a chydymffurfio gyda’r wybodaeth arno.

#DiogeluEinCymuned


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Medi’r 30ain 2020

Mae’n drist gennym ni yma yng Nghyngor Tref Llanfairfechan, ddatgan y bydd cloi lleol yn ein sir o 6yh ar ddydd Iau, Hydref y 1af.

Dilynwch y ddolen isod i weld canllawiau manwl gywir Llywodraeth Cymru ynghylch cloi lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Cwestiynau Cyffredin ynghylch Cloi Conwy

Gofynnwn yn garedig i’r holl breswylwyr gydymffurfio gyda’r rheoliadau, ac unwaith eto, ein cynorthwyo i ddiogelu ein cymuned.

Mae Llanfairfechan yn le gwych i fyw yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Daliwch ati i ofalu am eich cymdogion a helpu’ch gilydd pan fo’n bosib.

Cofiwch fod prosiect Cefnogaeth Stryd Llanfairfechan yn dal ar waith ac yn gallu eich cynorthwyo gyda danfon presgripsiynau ac ymholiadau eraill.

Mae croeso i unrhyw un sydd methu â fforddio bwyd neu hanfodion fanteisio ar Fanc Bwyd Llanfairfechan.

Mae’r Banc Bwyd dan ofal y gymuned er lles y gymuned. I gysylltu gyda nhw, anfonwch neges ar Facebook neu e-bost at llanfoodbank2018@gmail.com

Mae’r holl e-byst a negeseuon yn gyfrinachol.

#DiogeluEinCymuned #GofaluAmEinGilydd


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Medi’r 29ain 2020

Neges gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Yn sgil y cynnydd mewn achosion o Covid-19 mewn ysgolion, mae gofyn i’r holl ddisgyblion wisgo gorchudd wyneb ar gludiant i ac o’r ysgol (byddwn yn caniatáu rhai eithriadau).

  • Cyfrifoldeb y rhiant / gofalwr ydy hi i ddarparu gorchudd wyneb
  • Rydym yn argymell gorchudd wyneb tair haen

Gofalwch eich bod yn cydymffurfio gyda’r rheolau hyn.

#DiogeluEinCymuned


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Medi’r 25ain 2020

Mae Cyngor Tref Llanfairfechan yn cydweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus a mudiadau lleol er mwyn diogelu ein cymuned. Bu inni dderbyn y cyngor canlynol er eglurder am y cyfyngiadau diweddaraf i eiddo trwyddedig. Gofynnwn yn garedig ichi gynorthwyo’r tafarnwyr gyda hyn – mae’n gyfnod anodd i holl fusnesau ac mae cyfrifoldeb ar y cwsmeriaid i gydymffurfio gyda’r canllawiau gan sicrhau na chaiff perchnogion busnes eu cosbi.

  • Mewn mannau sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed ar y safle, mae ond hawl gennych chi weini bwyd neu ddiod i’r cwsmeriaid hynny gyda seddi (yn amodol ar eithriadau penodol fel bwffe, cantinau gweithleoedd a mannau mewn sefydliadau addysg fel cantinau prifysgolion). Mae’n rhaid i gwsmeriaid eistedd pan maen nhw’n bwyta ac yfed.

  • Does dim hawl gan fannau sydd â thrwydded i werthu alcohol (i’w yfed ar y safle ai pheidio) i weini neu gyflenwi alcohol ar ôl 10.00yh (nac ychwaith weini neu gyflenwi alcohol eto cyn 6.00 y bore canlynol).
  • Mae’n rhaid i fannau sydd â thrwydded i werthu alcohol ar y safle gau am neu cyn 10.20yh (ac nid oes hawl ganddyn nhw ail-agor cyn 6 y bore canlynol).
  • Mae’n ofyniad erbyn hyn ichi wisgo gorchudd wyneb mewn mannau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod ond bydd esgus rhesymol i gwsmeriaid beidio â gorfod gwisgo gorchudd wyneb tra’u bod nhw’n eistedd.

Cofiwch gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru:

  • Y tu mewn, mae ond modd ichi fwyta neu yfed gyda’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw (aelodau eich tŷ) neu aelodau eich aelwyd estynedig os ydych chi wedi ffurfio un. Dim ond grwpiau o hyd at 6 gaiff fwyta neu yfed mewn tafarndai neu fwytai, gan gynnwys eich aelwyd estynedig, (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed).

 #DiogeluEinCymuned


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Medi’r 23ain 2020

Gofalwch eich bod yn cydymffurfio gyda rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru i ddiogelu ein cymuned wrth i’r gaeaf nesáu.

Gwybodaeth gyfredol i Gymru

SYLWCH: Bu i Gyngor Tref Llanfairfechan benderfynu ym mis Awst y byddai’r Prosiect Cefnogaeth Stryd yn parhau nes bydd y pandemig Covid-19 dan reolaeth. Rydym yn dal ar gael i nôl presgripsiynau i drigolion bregus a helpu lle’n bosib.

Dyma ein rhif cyswllt 01248 681697. Peidiwch â defnyddio unrhyw rif arall ar gyfer y gwasanaeth hwn os gwelwch yn dda gan y bydd gennym ni staff a fydd yn ateb ffôn swyddfa’r Cyngor Tref o 9yb – 12yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch adael neges ar ein peiriant ateb y tu hwnt i’r oriau hyn neu gallwch e-bostio Clerc y Dref ar jayne@llanfairfechan.net


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Medi’r 21ain 2020

***Newyddion Pwysig am y Sgip Cymunedol***

Sylwch yn dilyn cyfarwyddiadau ymatebwyr ein holiadur ar Facebook, bu i Gyngor Tref Llanfairfechan archebu sgip cymunedol gan GBSC AR DDYDD IAU, MEDI’R 24AIN YM MAES PARCIO FFORDD YR ORSAF. Mae hwn yn drefniant brys i helpu’r preswylwyr nes bydd y sgipiau rheolaidd ar ddydd Sadwrn yn dychwelyd.

Gofynnwn yn garedig ichi gynorthwyo CBSC gan gydymffurfio gyda’r holl ganllawiau ar y diwrnod a gofalu fod gennych chi fwgwd a menyg er mwyn eich gwarchod chi ac eraill.

At hyn, mae’n debyg y bydd hi’n brysur felly cofiwch y bydd y sgip yn cyrraedd am 9yb ac mae’n bosib y caiff ei lenwi’n weddol sydyn.

Bydd y Cyngor Tref yn rhoi gwybod yma pan fydd y sgipiau rheolaidd yn dychwelyd. Fodd bynnag yn sgil y cynnydd mewn achosion o Covid-19, mae’n rhaid inni gydnabod mae’n bosib na fydd y sgipiau’n dychwelyd am beth amser.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Medi’r 18fed 2020

Newyddion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am waith yn Nant y Coed:

Nant y Coed, Llanfairfechan

Mae’r llwybr wrth gefn ar gau oherwydd difrod storm ac erydu yn sgil yr afon. Does yna ddim mynediad drwy’r llwybr wrth gefn rhwng mynediad Newry Drive a maes parcio’r Tair Afon.

Bu inni fwrw golwg ar lwybrau dros dro eraill fel bod mynediad i’r safle ond dydy’r rhain ddim yn hyfyw. Mae hyn yn golygu y bydd y llwybr wrth gefn ar gau nes bod modd inni gynnal y gwaith atgyweirio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Medi’r 15fed 2020

Sgipiau Cymunedol

Bu i nifer o breswylwyr holi pryd fydd y sgipiau cymunedol yn dychwelyd. Rydym wedi ein hysbysu y bydd cyfarfod y mis yma i drafod a oes modd ailgychwyn y gwasanaeth o fis Hydref. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni ystyried diogelwch y cyhoedd yn sgil y pandemig Covid-19 cyfredol. Bu i Lywodraeth Cymru leisio’u pryderon ynghylch y lefelau cynyddol o Covid-19 yn eu sesiwn wybodaeth ddydd Gwener ddiwethaf ac mae’r rheoliadau newydd yn fwy llym. Daliwch ati i wirio ein newyddion cyfredol am wybodaeth bellach. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth unwaith y byddwn ni’n ei derbyn.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Awst yr 28ain 2020

Cysylltu gyda Busnesau Llanfairfechan

  1. Mae’r Cyngor Tref yn awyddus i gefnogi busnesau lleol ac erbyn hyn mae modd inni gynnig hysbysebu am ddim am gyfnod o dri mis ar ein harwydd ddigidol ym Maes Parcio’r Promenâd. Cysylltwch gyda Chlerc y Dref ar jayne@llanfairfechan.net neu ffoniwch 01248681697 rhwng 9yb a 12yp o ddydd Llun i ddydd Gwener i drafod hyn.

  2. Rydym hefyd wrthi’n llunio cais a fyddai’n fodd inni brynu eitemau i adfywio’r dref yn dilyn cyfnod clo Covid-19. Cwblhewch ein holiadur yma i roi gwybod inni beth fyddai’n fuddiol neu anfonwch e-bost at Glerc y Dref. Bu inni ymuno gydag ymgyrch Cadw Pellter y Comisiwn Bevan.
  3. Mae modd ichi fanteisio ar becyn o arwyddion drwy’r ymgyrch hwn a fydd yn help i gwsmeriaid gadw eu pellter. Cysylltwch gyda ni i dderbyn y dogfennau neu fe allwch eu lawr lwytho o’r gwefan.
  4. Rydym mewn cyswllt agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac asiantaethau eraill sy’n cydweithio i gefnogi’r Sir i ffynnu unwaith eto. Cysylltwch gyda ni os gallwn helpu gydag unrhyw broblemau sy’n achosi trafferth sylweddol ichi. 

Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Awst y 27ain 2020

Bu inni dderbyn y neges ganlynol gan Uned Seiberdroseddu Caerfyrddin:

‘Ditectif Gwnstabl Gareth Jordan o Uned Seiberdroseddu Heddlu Dyfed Powys, Caerfyrddin ydw i. Bu inni dderbyn sawl galwad yn dweud bod cynghorwyr yn e-bostio etholwyr yn gofyn iddyn nhw brynu Talebau Anrheg.’

Os oes unrhyw un yn derbyn e-bost gan gynghorwyr lleol ynghylch hyn, gofynnwn ichi anwybyddu a dileu’r e-bost.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Awst y 26ain 2020

Fel rhan o’r ymdrechion i gefnogi adfer yr ardal yn dilyn y pandemig Covid-19, bu i Gyngor Tref Llanfairfechan ymuno gydag Ymgyrch Cadw Pellter Comisiwn Bevan.

Mae dogfen Llywodraeth Cymru ar Arwain Cymru allan o’r Pandemig yn Coronafeirws yn datgan:

‘Mae mynd i’r afael â’r argyfwng coronafeirws wedi golygu newidiadau mawr i fywydau pob un ohonom ar draws Cymru. Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn achub bywydau a diogelu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Mae’n amlwg bod gweithredoedd pob un ohonom wedi cyfrannu at y gostyngiad yn y lefelau haint yng Nghymru, ond mae’r feirws yn parhau i fod yn fygythiad difrifol iawn i bob un ohonom ac ni allwn laesu dwylo o gwbl’

Rydym yn parhau i ofyn i holl breswylwyr ac ymwelwyr gydymffurfio gyda’r canllawiau a chadw pellter o 2 fedr. Cofiwch fod nifer fwy o bobl yn gweithio o adref ac yn diogelu eu hunain yn eu cartref. Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn parchu ein cymdogion ac yn ymddwyn yn gyfrifol pan fyddwn allan yn y gymuned


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Awst yr 20fed 2020

Bu i GBSC hysbysu’r Clerc bod modd cyflwyno’r Rhybudd Etholiad ar gyfer y tair sedd wag yn Ward Bryn. Cafodd ei bwysleisio y bydd CBSC yn derbyn y canlynol i gefnogi unrhyw un sy’n dymuno sefyll fel Cynghorydd Tref:

Deg e-bost unigol gan gefnogwyr neu

Deg llythyr unigol gan gefnogwyr

Dydyn nhw ddim yn disgwyl i ymgeiswyr arfaethedig gyfarfod gyda’r cefnogwyr iddyn nhw lofnodi’r ffurflenni oherwydd rheoliadau Covid-19.

Bydd yr holl etholiadau ar ôl Chwefror y 1af 2021

Dolen i Rybudd Etholiad ar ffurf PDF


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Awst y 18fed 2020

Gallwch weld canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru ar warchod a diogelu pobl rhag Covid-19 yma

Mae’r canllawiau newydd hyn ar sail bod y lefelau haint yng Nghymru yn isel iawn ac felly mae’r tebygolrwydd o ddal coronafeirws (COVID-19) yn llawer is. O ganlyniad bu i’r Prif Swyddog Iechyd ddiwygio’i gyngor.

Sgipiau Cymunedol

Dydy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy heb ailgychwyn y gwasanaeth hyd yn hyn felly does dim modd i Gyngor Tref Llanfairfechan drefnu‘r sgipiau cymunedol rheolaidd – rydym yn gobeithio y byddan nhw’n ailgychwyn y gwasanaeth yn y dyfodol agos os ydy graddau Covid-19 yr ardal yn parhau i fod yn isel.

Yn y cyfamser, mae safleoedd ailgylchu CBSC ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Mae system cadw lle ar eu cyfer ond mae’n debyg bod digonedd o amseroedd a dyddiadau rhydd.

Dyma ddolen i system cadw lle safleoedd ailgylchu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Diwrnod VJ – Bu i’r Faeres a’r Dirprwy Faeres ddathlu’r achlysur drwy gynnal digwyddiad gosod torch, gan gadw pellter cymdeithasol, am 11yb.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Awst y 5ed 2020

Sylwch bod y Gorchmynion Drafft ar gyfer ailddatblygu Cyffordd 15 ac 16 yr A55 wedi’u gohirio yn sgil y pandemig Covid-19.

Ni chaiff y rhain eu cyhoeddi tan fis Medi 2020 yn y fan gyntaf.

Bydd arddangosfa gyhoeddus pellach yn y Neuadd Gymunedol cyn gynted â phosib unwaith y caiff y Gorchmynion Drafft eu cytuno


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Gorffennaf y 30ain 2020

Mae Cyngor Tref Llanfairfechan wrthi’n paratoi cais am gyllid a fyddai’n help inni adfywio mannau siopa a hamdden y dref. Os oes gennych chi syniadau a fyddai’n help i fusnesau ail-agor a denu cwsmeriaid, anfonwch eich syniadau at Glerc y Dref, jayne@llanfairfechan.net. Bydd y Cynghorwyr yn dwyn y rhain i ystyriaeth yn ystod cyfarfod nesaf y Cyngor Tref ar ddydd Mercher, Awst y 19eg yn barod ar gyfer cyflwyno ein cais cyllid.

Cwblhewch ein holiadur yma os gwelwch yn dda:


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Gorffennaf yr 20fed 2020

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y bydd ein tai bach cymunedol ar Ffordd Y Pentref yn ail-agor yn fuan.

Gan ddefnyddio ein peiriant diheintio newydd, bu James Griffiths, ein Gweithredwr Amgylcheddol, yn brysur yn gofalu bod yr ardal yn ddiogel. Bydd yn glanhau’r adeilad yn drylwyr yn barod i’w ail-agor ddydd Iau.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Gorffennaf y 13eg 2020

    


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Gorffennaf y 7fed 2020

Y diweddaraf gan Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau Llanfairfechan

Glanhau’r Strydoedd

Bu i ein Gweithredwr Amgylcheddol ailgydio yn ei ymdrechion glanhau ar ddydd Llun, Gorffennaf y 6ed. Er mwyn iddo allu cadw pellter cymdeithasol a gofalu bod pawb yn ddiogel ar y strydoedd, mae’n cychwyn ei waith am 5yb. Gofynnwn yn garedig ichi ein helpu ni drwy barhau i fod yn wyliadwrus ynghylch ysbwriel a baw ci – mae holl finiau CBSC ar agor erbyn hyn a gallwch eu defnyddio ar gyfer ysbwriel cyffredinol a baw ci. Diolch yn fawr iawn i’r nifer o wirfoddolwyr fu wrthi’n codi ysbwriel yn ystod y cyfnod clo – roedd yn help sylweddol.

Potiau Blodau a Gwelyau Blodau’r Dref

Bu’r Cynghorwyr Tref wrthi’n clirio a phlannu blodau yn y mannau hyn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Hoffem estyn diolch o galon i’r trigolion fu’n helpu neu’n cyfrannu planhigion ar gyfer y broses hon. Bu i’r Cyngor Tref gytuno ein bod ni’n cymryd yr awenau dros y garddio eleni yn sgil y pandemig Covid-19 gan nad oedd modd i GBSC barhau gyda’r gwaith oherwydd y cyfnod clo. Rydym yn bartner i Fwyd Bendigedig Llanfairfechan felly rydym yn ceisio plannu gwelyau bwyd lle’n bosib gyda pherlysiau a llysiau gallai’r trigolion eu pigo. Bu i’r Cyngor Tref brynu ychydig o blanhigion ychwanegol i helpu gyda’r prosiect garddio ac rydym yn gobeithio y bydd modd inni fynd i’r afael gyda’r tyfiant chwyn drwy gydol yr haf!

Pwll Cychod

Roedd yn drafferth glanhau’r pwll cychod eleni a hoffem estyn diolch i’r trigolion ddaeth draw i glirio’r algâu o’r pwll. Y penwythnos yma, bu mwy o drafferthion gyda llifogydd yn yr ardal. Mae CBSC wedi eu hysbysu ac maen nhw am fynd i’r afael â’r broblem. Wnawn ni roi gwybod ichi am unrhyw gynnydd.

Sgipiau Cymunedol

Mae CBSC wrthi’n ceisio sefydlu proses diogel er mwyn i’r sgipiau allu dychwelyd i gymunedau yng Nghonwy. Fodd bynnag, does dim dyddiad pendant wedi’i bennu hyd yn hyn. Wnawn ni roi gwybod ichi yn y man. Ni fydd unrhyw sgipiau ym mis Gorffennaf ac felly mae ein sgip nesaf i fod ym mis Medi. Rydym yn gobeithio y bydd y sefyllfa wedi’i ddatrys erbyn hynny. Yn y cyfamser, mae modd i drigolion gadw lle ar gynllun canolfan ailgylchu CBSC: Gwefan CBSC. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Rydym wedi torri’r gwair am y tro cyntaf eleni ac mae pob ardal yn daclus erbyn hyn. Er gwybodaeth, dyma restr o’n cyfrifoldebau gan GBSC: Llwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor Tref. Tirfeddianwyr preifat neu GBSC sy’n gyfrifol am yr holl lwybrau eraill. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am ein llwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus, cysylltwch gyda’r Clerc ar 01248 681697 neu e-bostiwch jayne@llanfairfechan.net

Blychau Ffôn Cyhoeddus

Bu i’r Cyngor Tref, ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ymateb i ofyniad gan BT yn ddiweddar i gael gwared ar flychau ffôn cyhoeddus ym Mhendalar ac ar y Promenâd. Bu inni wrthwynebu’n gryf gan ddatgan eu bod nhw’n hanfodol ar gyfer argyfyngau ac i gynorthwyo unrhyw un heb ffôn symudol. Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y bu i BT ddwyn ein sylwadau i ystyriaeth a ni fyddwn yn cael gwared ar y blychau ffôn.

Fodd bynnag, yn anffodus fe gafodd y ffôn ar y Promenâd ei ddifrodi’n ddiweddar. Fe soniodd Cynghorydd Tref wrth BT ac maen nhw wedi’i drwsio erbyn hyn.  Gofynnwn i drigolion roi gwybod inni os caiff y ffonau eu difrodi eto oherwydd mae’n bosib y gallan nhw achub bywyd rhywun un diwrnod. Mae’n bwysig bod ein blychau ffôn yn gweithio.

Tai Bach Cyhoeddus

Mae CBSC wrthi’n cynnal asesiad risg ac yn datblygu proses diogel er mwyn ail-agor y tai bach cyhoeddus. Fel y gwyddoch eisoes, mae’n fater trafferthus oherwydd gallai tai bach fod yn risg uchel yn ystod pandemig. Fe wnawn ni rannu unrhyw ddatblygiadau gyda chi ond gofynnwn ichi fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Cyfyngiadau Parcio ar Ffordd yr Orsaf a Ffordd Y Pentref

Yn sgil cloi mawr Covid-19, dydy’r arwyddion parcio heb eu newid yn Ffordd yr Orsaf a Ffordd Y Pentref. Fodd bynnag, mae’r broses gyfreithiol wedi’i chwblhau erbyn hyn ac yr amser aros newydd ar gyfer y mannau hyn ydy 2 awr. Gofynnodd y Cyngor Tref i GBSC newid yr arwyddion hynny cyn gynted â phosib gan fod cyfyngiadau’r cyfnod clo yn llacio.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Gorffennaf y 3ydd 2020

Bu i amryw drigolion leisio’u pryderon ynghylch y gwasanaeth bws ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyhoeddiad am Gynllun Bysiau Brys erbyn hyn. Bu iddyn nhw sôn y bydd y cynllun yn ‘darparu rhwydwaith mwy integredig a hyblyg fydd yn ateb y galw, yn darparu gwasanaethau hyblyg ac yn neilltuo unrhyw arian ychwanegol’.

Gwelwch y cyhoeddiad llawn isod:

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y Cynllun Bysiau Brys


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Gorffennaf yr 2il 2020

Yn sgil cyfyngiadau Covid 19, rhaid oedd canslo digwyddiad Dathlu Llanfairfechan eleni. Fodd bynnag, rydym yn annog teuluoedd i fwynhau’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol o’u cartref drwy gymryd rhan yn ein gweithgareddau yn y cartref ac ar-lein:


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Mehefin y 29ain 2020

Bu i GBSC ein hysbysu bod parciau sglefrio’n ail-agor heddiw yn sgil llacio canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru yn raddol.

Sylwch y bydd parciau chwarae yn parhau i fod ar gau am y tro ond fe wnawn ni eich hysbysu unwaith y bydd y canllawiau’n newid.

At hyn, mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y byddwn yn tynnu’r byrddau atal llifogydd oddi ar y promenâd yn y dyddiau nesaf.


Newyddion Cyngor Tref Llanfairfechan, Mehefin yr 22ain 2020

Gallwch fynd ati i geisio am Grantiau Cymunedol Cyngor Tref Llanfairfechan o hyn ymlaen ac rydym yn croesawu ceisiadau grant yn arbennig gan grwpiau cyfansoddiadol sy’n helpu’r gymuned drwy gydol y Pandemig Covid-19.

Mae’r Ddeddfwriaeth yn datgan fod yn rhaid i’r cyllid fynd tuag at brosiectau sy’n gwella iechyd a lles yng nghymuned Llanfairfechan. Sylwch bu inni roi proses ymgeisio ac adroddi trwyadl ar waith er mwyn sicrhau tryloywder o ran defnydd y grantiau hyn.

Bydd dwy rownd grantiau yn 2020/21. Dyma’r dyddiadau cau ar gyfer ymgeisio:

  • Rownd 1 2020/21 Dyddiad Cau i ymgeisio am 12 hanner dydd ar ddydd Gwener, Gorffennaf y 3ydd
  • Rownd 2 2020/21 Dyddiad Cau i ymgeisio am 12 hanner dydd ar ddydd Gwener, Ionawr y 15fed

Gallwch hefyd lawr lwytho pecynnau ymgeisio yma

Byddwn yn dwyn i ystyriaeth ceisiadau brys y tu hwnt i ddyddiadau’r rowndiau grant ffurfiol hyn lle’n briodol.


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan ar Fehefin y 19eg 2020

Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru, Mehefin y 19eg

Rheoliadau Coronafeirws : newidiadau o ddydd Llun, Mehefin yr 22ain


Datganiad Covid – 19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mehefin y 18fed 2020

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y bu modd i’n contractwr barhau gyda’r gwaith i glirio ein Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac mae’r gwair wedi’i dorri am y tro cyntaf eleni.

Fel Cyngor Tref, bu inni gytuno i ymgymryd â dull newydd er mwyn cynnal a chadw’r Hawliau Tramiau Cyhoeddus yn 2020/21. Yn dilyn cyngor gan Plantlife Cymru a’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, hoffem warchod ein bywyd gwyllt a diogelu rhywogaethau planhigion gwyllt drwy ond torri ychydig o’r gwair. Bu inni ddwyn i ystyriaeth bywyd gwallt a phlanhigion yr ardal fel ein bod yn eu haflonyddu cyn lleied â phosib.

Bydd ein prif weithrediad torri gwair am y flwyddyn ar ddiwedd mis Medi a byddwn yn gofalu y caiff unrhyw wrychoedd neu ardaloedd trafferthus eu torri fel eu bod yn barod i’w ddefnyddio’r flwyddyn nesaf.

Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion yn y canllawiau canlynol:

Canllaw Ymylon Plantlife Cymru

   

Hoffem estyn diolch i Gyngor Tref Penmaenmawr am gydweithio gyda ni ar ein prosiect cynnal a chadw Hawliau Tramwy Cyhoeddus.


Bydd Cyngor Tref Llanfairfechan yn cyfarfod ar-lein am 7yh ar ddydd Mercher, Mehefin yr 17eg.

Gallwch fwrw golwg ar yr agenda yma

Os hoffech chi ymuno â’r cyfarfod ar-lein, e-bostiwch Glerc y Dref ar jayne@llanfairfechan.net i wybod mwy

Gwybodaeth am ein cyfarfodydd ar-lein


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mehefin y 9fed 2020

Cliciwch yma i weld y diweddaraf am Wasanaethau Cyfredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Conwy County Borough Council Current Services update click here


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mehefin y 4ydd 2020

Gwybodaeth am ddychwelyd i’r ysgol:

Gwybodaeth Llywodraeth Cymru am ddychwelyd i’r ysgol


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mehefin y 3ydd 2020

Gofynnodd Cyngor Tref Llanfairfechan i drigolion beidio â mynd i’r afael â phobl eu hunain yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yn lle hynny, mae gofyn iddyn nhw roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am unrhyw bryderon.

Rydym yn ystyried yr adroddiadau hyn o ddifrif ac mae ein Tîm Heddlu ar Droed yn patrolio’r ardal yn rheolaidd.

Gwelwch gyhoeddiad Facebook diweddar gan Heddlu Gogledd Cymru yma: https://www.facebook.com/NorthWalesPolice/photos/a.10150264069001955/10158055201601955/?type=3


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mehefin yr 2il 2020

Mae’r cloi mawr yn sgil Covid-19 yn llacio ond mae ein prosiect cefnogaeth stryd yn dal ar waith i’ch helpu! Bydd modd ichi gysylltu gyda ni ar rif arferol y Cyngor Tref o hyn ymlaen 01248 681697.

Gofynnwn yn garedig ichi ein cynorthwyo drwy hyrwyddo ein gwasanaeth a ffonio un person arall yn Llanfairfechan er mwyn rhannu ein manylion gyda nhw


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mehefin y 1af 2020

Arhoswch yn lleol er mwyn diogelu Cymru: cyhoeddi newidiadau i’r cyfnod clo

Mae cyfyngiadau newydd ynghylch Covid-19 ar waith o heddiw ymlaen ac mae’r wybodaeth ganlynol, yn egluro’r sefyllfa, ar gael gan Lywodraeth Cymru:

https://gov.wales/stay-local-to-keep-wales-safe

https://gov.wales/written-statement-coronavirus-covid-19-shielding-update-changes-advice

https://gov.wales/written-statement-review-lockdown-measures-and-health-protection-coronavirus-restrictions-wales

Mawr ddiolch i bawb sydd wedi mynd ati i geisio lleihau effaith Covid-19 yn Llanfairfechan. Daliwch ati i fod yn ofalus a chydymffurfio gyda’r rheoliadau.

#DiogeluEinCymuned


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mai’r 28ain 2020

Bu i’r Cyngor Tref weithredu yn dilyn derbyn adroddiadau am ansawdd dŵr y pwll cychod hwylio ar y cae chwarae.

Yn anffodus, yn sgil rheoliadau Covid-19 nid oes modd i Gyngor Conwy gynnal eu gwaith cynnal a chadw arferol ar y safle nes caiff y cyfyngiadau eu llacio.

Gofynnwn yn garedig ichi fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod heriol hwn – rydym i gyd yn gobeithio y bydd y sefyllfa’n gwella’n fuan.

Yn y cyfamser, mae gofyn inni barhau i ddiogelu ein cymuned drwy gydymffurfio gyda rheoliadau Llywodraeth Cymru.

#DiogeluEinCymuned


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mai’r 26ain 2020

Mae Age Connects yn cynhyrchu newyddlen rheolaidd gyda llu o wybodaeth ddefnyddiol i’n helpu i ddygymod â’r cyfnod trafferthus hwn.

Cliciwch y ddolen i weld tudalen Age Connects:

Dolen Newyddlen Age Connects


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mai’r 22ain 2020

Dogfen PDF

Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mai’r 20fed 2020

Hoffwch dudalen Facebook Meddygfa Plas Menai i weld y diweddaraf am y sefyllfa iechyd

https://www.facebook.com/plas.menai.71

Mae rhybudd ar hyn o bryd ynghylch y nifer o achosion yn yr ardal.

Mae ystod o ffyrdd newydd y gallwch chi fanteisio ar wasanaeth Plas Menai. Ewch i’w gwefan i wybod mwy: https://www.plasmenaihealthcentre.co.uk/

Mae Cyngor Tref Llanfairfechan ar ben eu digon o fod yn rhan o Grŵp Ymgysylltiad Cymunedol Plas Menai, gan gyfarfod ar-lein yn fwy rheolaidd yn ystod y pandemig Covid-19.


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mai’r 19eg 2020

Gwybodaeth am lwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Llanfairfechan

Bu inni fanteisio ar gyngor gan Gyngor Conwy a chanllawiau Llywodraeth Cymru i lywio ein penderfyniadau yn ymwneud â Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Bu i’r cyfnod clo achosi cryn drafferthion oherwydd, er inni gysylltu gyda chontractwr i dorri’r gwair am y tro cyntaf y tymor hwn, nid oedd modd iddyn nhw gwblhau’r gwaith yn sgil cyfarwyddyd pendant i gwblhau gwaith hanfodol yn unig yn ystod y cyfnod hwn. Gofynnwn i drigolion fod yn amyneddgar gyda ni. Gallwn eich sicrhau y bydd ein contractwr yn cychwyn ar y gwaith ar lwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus unwaith y bydd yn ymarferol iddo wneud hynny.

Bu hefyd pryder ynghylch Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd un ai ger tir preifat neu sy’n torri ar draws tir preifat. Gofynnwn i drigolion ddwyn i ystyriaeth tirfeddianwyr preifat yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n bosib iawn i bobl deimlo’n fregus pan fo ddieithriaid yn troedio tir ger eu cartref yn ystod cyfnod clo.

Mae’r canllaw yn datgan yn eglur, yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid cadw llwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar agor. Fodd bynnag, os ydy tirfeddiannwr yn gosod arwydd cwrtais yn gofyn i bobl gadw pellter cymdeithasol, gofynnwn ichi gydymffurfio gyda hyn am y tro. Mae’n bosib bod y teulu mewn peryg os ydyn nhw’n dal y feirws neu mae’n bosib eu bod nhw’n hunan ynysu oherwydd symptomau.

Ni ddylai unrhyw un oddef ymddygiad treisgar neu ymosodol ac fe ddylid rhoi gwybod i Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Sara ar 07971 825902 neu drwy alw llinell Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Rydym ni i gyd yn yr un gwch a’r prif nod dylai pawb ymroi iddi ydy ymdrechu hyd eithaf eu gallu i waredu Covid-19 o’n cymuned.

Mae mwy o wybodaeth yma:

Canllaw Hawliau Tramwy Llywodraeth Cymru

Canllaw Ymarfer Corff Llywodraeth Cymru


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mai’r 15fed 2020

Gwaetha’r modd, mae’n rhaid inni adrodd bod tri Chynghorydd Tref wedi ymddiswyddo o Gyngor Tref Llanfairfechan. Hoffem ddiolch i’r Cynghorwyr am eu gwasanaeth maith ar ran cymuned Llanfairfechan ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda nhw yn eu swyddi gwirfoddol yn ymwneud â gweithgareddau eraill y pentref. Rydym yn ymroi i fynd rhagddi fel Cyngor Tref, gan gydweithio i ddiogelu ein cymuned rhag Covid-19 a gofalu am lesiant trigolion yn y dyfodol.

Bu i Wasanaethau Aelodau CBSC ein cynghori fel a ganlyn:

Y Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) Rheoliadau 2020

Mae dal gofyn i Gynghorau Tref hysbysebu’r swydd wag hon “cyn gynted ag sy’n ymarferol”. Ni chaiff hyn ei ddiffinio mewn deddfwriaeth ac o ystyried yr amgylchiadau presennol a’r materion yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd, ni fyddai’n ymarferol eu cyhoeddi ar hyn o bryd. Os caiff isetholiad ei gynnal, bydd y rheoliadau hyn yn gohirio unrhyw isetholiad tan ar ôl Chwefror y 1af 2021.

O ganlyniad bydd y Cyngor Tref, gan gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth gyfredol, yn ystyried y cynnig i gyhoeddi rhybudd o etholiad unwaith caiff Rheoliadau Covid Llywodraeth Cymru eu llacio a bydd swyddfa’r Cyngor Tref yn gwbl weithredol unwaith eto. Bydd ein Cyngor yn cyfarfod ar-lein ar ddydd Mercher a byddwn yn dwyn y cynnig hwn i ystyriaeth.

Os hoffech chi ymuno â’r cyfarfod, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu sylwadau, e-bostiwch Glerc y Dref ar jayne@llanfairfechan.net


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mai’r 14eg 2020

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrthi’n llunio cynlluniau ar gyfer ail-agor y canolfannau ailgylchu’n ddiogel

Cliciwch y ddolen hon i wybod mwy


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mai’r 11eg 2020

Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn cymryd sylw o’r wybodaeth yn y dolenni isod.

Mae’n bwysig crybwyll fod Heddlu Gogledd Cymru yn meddu ar rym deddfwriaethol i atal ymwelwyr rhag ymweld â Chymru ar hyn o bryd.

#DiogeluEinCymuned

Erthygl newyddion BBC, mae’r Heddlu “yn meddu ar rym i roi dirwy” i bobl sy’n dod i Gymru am resymau nad ydyn nhw’n hanfodol.

https://gov.wales/leaving-home-exercise-guidance

Cwestiynau ac Atebion ynghylch Rheoliadau Aros Adref


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mai’r 6ed 2020

File upload


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Ebrill yr 28ain 2020

Gofynnai Cyngor Tref Llanfairfechan i’r holl drigolion gydymffurfio gyda deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch ymarfer corff:

https://gov.wales/leaving-home-exercise-guidance

Peidiwch â rhoi’r Heddlu mewn sefyllfa annifyr i orfod cyflwyno dirwy.

Diben y ddeddfwriaeth ydy gofalu bod Cymru yn dal ati i reoli lledaeniad feirws Covid-19.

Gorau oll y byddwn ni, fel unigolion, yn cydymffurfio â’r rheolau, y mwyaf tebygol fydd hi inni allu codi cyfyngiadau’r cyfnod clo yn gynt na’r disgwyl.

#DiogeluEinCymuned


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Ebrill y 24ain 2020

Fe gawson ni ein hysbysu o gŵyn anhysbys am faner Y GIG ger croesffordd Llanfairfechan. Rydym yn ymwybodol nad oedd swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy nac ychwaith Cyngor Tref Llanfairfechan yn dymuno cael gwared ar yr arwydd, ond rydym ni i gyd yn ymroi i ofalu bod pobl yn cydymffurfio gyda rheoliadau’r priffyrdd yn unol â’r Gyfraith.

Aeth busnesau lleol, y Cyngor Tref, Ysgol Babanod ac Ysgol Pant y Rhedyn ati i chwilio am safle a bu iddyn nhw lwyddo i ddod o hyd i safle arall ar gyfer y baneri fel nad oedd unrhyw dor-rheolau. Dyma enghraifft wych o gymuned yn cydweithio i gyflawni deilliant cadarnhaol. Bydd pawb ohonom ar ein stepen drws pob dydd Iau am 8yh fel arfer yn cymeradwyo arwyr Y GIG.


Cofiwch fod yr holl wybodaeth am wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yma:

https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Coronavirus-Covid-19/Coronavirus.aspx

Mae modd i unrhyw breswylwyr sydd angen cymorth yn ystod cyfnod clo Covid-19 fanteisio ar wasanaeth Cefnogaeth Stryd Cyngor Tref Llanfairfechan (rhif ffôn 07740 280134). Rydym yn cydweithio’n agos gyda rhaglen cefnogaeth Cyngor Conwy. Gallwch gysylltu gyda nhw neu Dîm Amddiffyn Conwy drwy ffonio 01492 575544. Os ydych chi wedi derbyn llythyr Cysgodi gan Lywodraeth Cymru, cysylltwch gyda ni oherwydd mae cymorth ychwanegol ar gael i bobl gyda chyflyrau meddygol penodol. 


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Ebrill yr 22ain 2020

/delwedd/resources/newsletter-april-2020.pdf

        

Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Ebrill y 14eg 2020

Cliciwch yma os ydych chi wedi derbyn llythyr Cyngor ar Gysgodi gan Lywodraeth Cymru

Sefyllfa Gyfredol Gwasanaethau’r Cyngor 14/04/20 [Diweddariad am 12:00]

Cynllun Cymorth Ffermio Conwy

Ydych chi’n meddu ar brofiad yn y maes amaethyddiaeth? Neu, ydych chi’n ffarmwr sydd angen help?

Rydym wrthi’n llunio cronfa ddata o wirfoddolwyr sy’n fodlon helpu a chynorthwyo ar ein ffermydd, os oes angen.

Os ydych chi’n meddu ar brofiad amaethyddol, ac yn fodlon cynorthwyo ar ffermydd yng Nghonwy, cofrestrwch heddiw. Cysylltwch gyda Rhys ar rhys.evans@conwy.gov.uk (01492) 576671 neu 07733 013328 i wybod mwy.

Digartrefedd

Rydym wrthi’n rhoi trefniadau brys ar waith i ddiogelu’r rheiny sy’n dioddef fwyaf o ddigartrefedd. Bydd yn help i symud pobl oddi ar y strydoedd er mwyn diogelu eu hunain ac eraill. Rydym wrthi’n cydweithio gyda’n holl bartneriaid i gynnig cyfleusterau ychwanegol fel bod y rheiny heb gartref yn ddiogel, ac yn gallu manteisio ar lety dros dro, cyfleusterau ymolchi, bwyd a dŵr glân ac yn gallu hunan ynysu’n ddiogel.

Mae croeso i unrhyw un sy’n ddigartref neu sydd mewn peryg o fod yn ddigartref gysylltu gyda ni ar 0300 124 0050 rhwng 9.30yb a 5.15yp neu e-bostiwch housingsolutions@conwy.gov.uk

Y rhif brys y tu hwnt i oriau arferol ydy 0300 123 3079.

Cefnogaeth Gymunedol

Wyddoch chi am rywun sydd angen cymorth, neu sy’n hunan-ynysu? Mae criw o bobl yn barod i helpu gyda siopa, casglu presgripsiynau a chefnogaeth arall. Gallwch ganfod pa gefnogaeth sydd ar gael drwy ffonio (01492) 575544 neu ewch i www.conwy.gov.uk/communitysupport

Mae rhai o’n gwasanaethau a chanolfannau ar gau gyda nifer o’n staff wedi’u hadleoli i ganolbwyntio ar y gwasanaethau â blaenoriaeth rydym yn dymuno dal ati i’w cynnig cyn hired â phosib.

Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o wasanaethau sydd ar gau ac unrhyw newidiadau

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y feirws, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar phw.nhs.wales i weld y cyngor diweddaraf.

Rydym wrthi’n cydweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r gwasanaethau brys i sicrhau bod trefniadau priodol a chymesur ar waith er mwyn ymateb i’r sefyllfa hwn sy’n prysur ddatblygu.

Byddwn yn parhau i gydymffurfio gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Prydain ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cefnogaeth Stryd Llanfairfechan


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Ebrill y 7fed 2020

 

Gwybodaeth am lwfans Cinio Ysgol Am ddim

Mae diweddariad dyddiol am Wasanaethau Conwy ar dudalen cartref gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Ebrill y 3ydd 2020

Mae gwasanaeth Banc Bwyd Llanfairfechan yn dal i weithredu ond mae’r drysau ar gau. Ffoniwch 01492 575544 neu cysylltwch gydag un o gysylltiadau adnabyddus Banc Bwyd Llanfairfechan.

Rydym yn cydymffurfio gyda’r holl ganllawiau iechyd a diogelwch.


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Ebrill y 1af 2020


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mawrth y 26ain 2020

Gwybodaeth bwysig am wastraff ac ailgylchu

  • Mae’r Cyngor yn parhau gyda’u casgliadau Ailgylchu a Gwastraff arferol. Fodd bynnag, ni fydd Crest yn casglu bagiau ailgylchu pinc neu borffor ar hyn o bryd.

  • Bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Tŷ ar gau o heddiw ymlaen am y tro, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.
  • Ni fydd canolfannau ailgylchu cymunedol ar agor ar ddydd Sadwrn am y tro.
  • Dydy CBSC ddim yn darparu sgipiau cymunedol ar hyn o bryd, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol.
  • Nid ydy CBSC yn casglu unrhyw wastraff swmpus gan gwsmeriaid newydd ar hyn o bryd.

I allu parhau gydag ein casgliadau ysbwriel ac ailgylchu, mae angen eich help chi arnom ni i ddiogelu staff CBSC.

  • Os ydy aelodau’ch tŷ yn hunan ynysu oherwydd bod gan un ohonoch symptomau feirol, gofynnwn yn garedig ichi beidio â rhoi eich ailgylchu ar y stryd inni ei gasglu am 14 diwrnod. Ar ôl 14 diwrnod, os nad oes gan unrhyw un ohonoch symptomau, gallwch roi eich ailgylchu ar y stryd inni ei gasglu a byddwn yn ailgylchu unrhyw nwyddau ychwanegol na fydd yn ffitio yn eich trolibocs.
  • Cofiwch olchi eich dwylo cyn ichi roi eich bin a blychau ailgylchu ar y stryd ac eto unwaith ichi eu nôl nhw.

Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mawrth y 24ain 2020

Gwyliwch y datganiad fideo hwn gan Mark Drakeford hyd at y diwedd lle bydd neges eglur ynghylch canllawiau cyfredol Llywodraeth Prydain. 

https://www.facebook.com/welshgovernment/videos/323850725242695/?t=100

Dim ond gweithwyr allweddol ddylai fod yn gweithio ar hyn o bryd – cofiwch gydymffurfio gyda’r cyfarwyddiadau a pheidiwch â rhoi eich hun, eich teuluoedd ac ein cymuned mewn peryg.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i ddoctoriaid, nyrsys, parafeddygon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal, a staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen gan gynnwys gwirfoddolwyr, y staff cefnogi ac arbenigol hanfodol i gynnal sector iechyd a gofal cymdeithasol Prydain, y rheiny sy’n gweithio fel rhan o gadwyn cyflenwi iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynhyrchwyr a dosbarthwyr meddyginiaethau a chyfarpar meddygol a diogelu personol.

Addysg a gofal plant

Felly staff gofal plant, cefnogol a dysgu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr addysg arbenigol a phroffesiynol sy’n gorfod parhau i weithio yn ystod ymateb COVID-19 i gyflawni’r gwaith.

Gwasanaethau cyhoeddus allweddol

Felly’r gweithwyr hynny sy’n hanfodol i gynnal y system cyfiawnder, staff crefyddol, elusennau a gweithwyr sy’n cynnig gwasanaethau rheng flaen allweddol, y rheiny sy’n gyfrifol am reoli’r meirw a newyddiadurwyr a gohebwyr sy’n darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Llywodraeth leol a chenedlaethol

Felly’r gweithwyr gweinyddol sy’n hanfodol er mwyn cynnal ymateb Covid-19 yn effeithiol, neu gynnig gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel talu budd-daliadau gan gynnwys asiantaethau mewnol y llywodraeth a chyrff hyd braich.

Bwyd a nwyddau hanfodol eraill

Felly’r rheiny sydd ynghlwm â chynhyrchu, dosbarthu, gwerthu a danfon bwyd yn ogystal â’r rheiny sy’n annatod i gynnig nwyddau allweddol eraill (er enghraifft meddyginiaethau hylendid a milfeddygol)

Diogelwch cyhoeddus a diogelwch cenedlaethol

Felly’r heddlu a staff cefnogol, gweision sifil y Weinyddiaeth Amddiffyn, contractwyr a staff y lluoedd arfog (y rheiny sy’n dyngedfennol er mwyn cyflawni gwaith amddiffyn allweddol a diogelwch cenedlaethol ac sy’n annatod i’r ymateb pandemig COVID-19), gweithwyr y gwasanaeth tân ac achub, (gan gynnwys staff cefnogol), staff Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, y rheiny sy’n gyfrifol am ddiogelwch ar y ffin, staff carchardai a gwasanaethau prawf a rolau diogelwch cenedlaethol eraill, gan gynnwys y rheiny sy’n gweithio dramor.

Cludiant

Y rheiny fydd yn cynnal dulliau cludiant yn yr awyr, ar y dŵr, ar y ffordd ac ar y rheilffordd, cludo teithwyr a chludo nwyddau yn ystod yr ymateb COVID-19, gan gynnwys y rheiny sy’n gweithio ar systemau cludiant lle mae cadwyni cyflenwi yn teithio trwyddyn nhw.

Gwasanaethau cyfleustodau, cyfathrebu ac ariannol

Felly staff annatod i gynnig gwasanaethau ariannol hanfodol (gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i weithwyr banciau, cymdeithasau tai a meysydd y farchnad ariannol), y sectorau olew, nwy, trydan a dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth), y sector technoleg gwybodaeth a data a nwyddau diwydiant allweddol i barhau yn ystod yr ymateb COVID-19. Yn ogystal â staff allweddol sy’n gweithio yn y meysydd niwclear sifil, cemegion, telegyfathrebu (gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i staff gweithrediadau rhwydwaith, peirianwyr maes, staff canolfannau galwadau, staff meysydd Technoleg Gwybodaeth a data, staff 999 a gwasanaethau argyfwng 111), gwasanaethau post a danfon, darparwyr taliadau a sectorau gwaredu gwastraff.


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mawrth y 23ain 2020

https://covid19-phwstatement.nhs.wales/

Hoffem atgoffa pawb ei bod hi’n ofyniad ar bawb ym Mhrydain i beidio â dod i gyswllt gyda phobl oni bai ei fod yn hanfodol ac i aros adref lle’n bosib.

Os oes rhaid i bobl fentro allan – i nôl bwyd fel enghraifft – mae’n rhaid iddyn nhw gadw pellter o 2m (6.5troedfedd) o leiaf rhag pobl eraill.


Sefyllfa Gyfredol Gwasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 23/03/20 [Diweddariad 10.30]

Datganiad Coronafeirws Covid-19:

Os oes gan unrhyw un ohonoch chi ymholiadau ynghylch y feirws, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar phw.nhs.wales i dderbyn y cyngor diweddaraf.

Rydym yn cydweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r gwasanaethau brys i ofalu bod trefniadau priodol a chymesur mewn lle er mwyn ymateb i’r sefyllfa hon sy’n prysur ddatblygu.

Byddwn yn parhau i gydymffurfio gyda’r canllawiau gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Prydain ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ysgolion

Os ydy eich plentyn chi’n derbyn cinio ysgol am ddim, bydd cinio wedi’u paratoi iddyn nhw o ddydd Mawrth ymlaen.

Os ydych chi’n weithiwr allweddol ac yn methu â threfnu gofal plant, bydd ysgolion Cyngor Conwy yn cynnig y gwasanaeth hwn o ddydd Mawrth ymlaen.

Os ydych chi’n weithiwr allweddol sy’n gallu trefnu gofal plant i’ch plant, gofynnwn ichi wneud hynny os gwelwch yn dda. Er enghraifft os mai dim ond un rhiant sy’n weithiwr allweddol ac mae’r llall adref, neu ddim yn gweithio’r diwrnod hwnnw, yna buasai gofyn ichi gadw eich plentyn adref yn hytrach na’u gyrru i’r ysgol.

Bydd gweithwyr allweddol gyda phlant sydd fel arfer yn mynychu ysgol yng Nghonwy yn gallu manteisio ar gyfleusterau gofal plant yn eu hysgolion cyfredol. Cliciwch yma i wybod mwy.

Gwybodaeth am ysgolion yn cau a chanslo arholiadau ar:

https://www.conwy.gov.uk/en/Resident/School-Closures-and-Cancellation-of-Examinations.aspx

Busnesau

Cefnogaeth i Fusnesau: Bu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi pecyn cymorth gwerth £1.4biliwn i fusnesau bach i’w helpu yn ystod yr achos coronafeirws. Rydym yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnig pecynnau ariannol brys. Rydym yn dal yn penderfynu ar yr union fanylion a byddwn yn gweithredu’r cynlluniau cyn gynted â phosib.

Bydd yr wybodaeth a ffurflenni cais ar-lein perthnasol ar wefan Conwy cyn gynted â phosib

https://www.conwy.gov.uk/en/Business/Business-Rates/Welsh-Government-Business-Grants.aspx

Gofal Cymdeithasol

Mae timau Gofal Cymdeithasol yn parhau i gynnig eu gwasanaethau i’r cyhoedd.

Rydym yn cydymffurfio gyda chyngor diweddaraf y llywodraeth, sy’n golygu weithiau y byddwn yn gweithio ychydig yn wahanol i’r arfer. Er enghraifft byddwn yn cysylltu gyda chi dros y ffôn yn hytrach na wyneb-yn-wyneb, os yn briodol.

Gwasanaethau dydd i bobl gydag anableddau dysgu yng Nghanolfan Marl, Canolfan Riviere a Chlybiau Plant a chyfleoedd gwaith ar gau.

Cefnogaeth Gymunedol

Wyddoch chi am rywun sydd angen cymorth, neu sy’n hunan-ynysu? Mae criw o bobl yn barod i helpu gyda siopa, casglu presgripsiynau, sgwrsio dros y ffôn a chefnogaeth arall. Gallwch ganfod pa gefnogaeth sydd ar gael yn eich cymuned drwy ffonio (01492) 575544.

Galw Gofal

Mae Galw Gofal yn parhau i weithredu fel arfer, gan gynnig cymorth dros y ffôn bob awr o’r dydd a gwasanaeth monitro y tu hwnt i oriau arferol i ddiogelu pobl hŷn neu bobl fregus yn eu cartrefi. Mae Galw Gofal yn ymroi i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn ddiogel ac yn iach yn ystod y cyfnod hwn.

Canolfannau Hamdden

Mae pob canolfan hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gau.

Byddwn yn rhoi’r gorau i dderbyn taliadau Debyd Uniongyrchol am aelodaeth ffitrwydd a gwersi nofio ar unwaith. Ni fyddwn yn casglu unrhyw daliadau debyd uniongyrchol nes bydd y canolfannau’n ail-agor. Does dim rhaid ichi wneud unrhyw beth. Caiff unrhyw gostau am aelodaeth rydych wedi’u talu ymlaen llaw fel aelodaeth flynyddol eu dwyn ymlaen unwaith y bydd y canolfannau’n ail-agor.

Llyfrgelloedd

Mae holl lyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gau.

Canolfannau Croeso

Bydd Canolfannau Croeso Conwy yn cau’r wythnos hon (24/03/20).

Gallwch barhau i fanteisio ar y gwasanaethau dros y ffôn, dros e-bost neu ar-lein ar

www.visitconwy.org.uk

Amlosgfeydd a Mynwentydd

Mae’r gwasanaethau’n parhau fel arfer. Gofynnir i’r rheiny sy’n galaru i gydymffurfio â’r canllawiau cenedlaethol ynghylch hylendid a chadw pellter cymdeithasol. Rydym yn gweddarlledu gwasanaethau coffa am ddim.

Venue Cymru a Theatr Colwyn

Dydy Venue Cymru na Theatr Colwyn yn cynnal sioeau neu’n dangos ffilmiau ar hyn o bryd

https://venuecymru.co.uk/coronavirus

Mae’r bwyty a’r caffi bar ar gau hefyd.

Cynllunio, Trwyddedu a Safonau Masnach

Mae gwasanaethau galw draw wedi’u gohirio am y tro, ffoniwch neu e-bostiwch i dderbyn cyngor neu i drefnu apwyntiad.

Gwasanaeth Cyngor Cynllunio: (01492) 575247 / cynllunioplanning@conwy.gov.uk

Safonau Masnach: (01492) 574110 / trading.standards@conwy.gov.uk

Ailgylchu ac Ysbwriel

Mae’r Cyngor yn parhau i gasglu Ailgylchu ac Ysbwriel fel arfer.

Mae Swyddfa Mochdre ar gau ond gallwch gysylltu gyda’r tîm Cyngor ERF ar (01492) 575337 neu e-bostiwch erf@conwy.gov.uk

Cyfarfodydd Pwyllgor

Mae rhai cyfarfodydd pwyllgor wedi’u gohirio. Gallwch wirio pa gyfarfodydd gaiff eu cynnal at https://modgoveng.conwy.gov.uk/mgCalendarMonthView.aspx?GL=1&bcr=1

Fideo Iaith Arwyddo Prydain

COVID 19 – Gwybodaeth mewn Iaith Arwyddo Prydain (BSL):

https://www.conwy.gov.uk/en/Council/Contact-Us/Sign.aspx

I ein helpu ni i amddiffyn cymaint o bobl â phosib yn ein cymuned, rydym yn annog y cyhoedd i gysylltu gyda ni drwy ffonio neu e-bostio lle’n bosib gan osgoi ymweliadau diangen i swyddfeydd y Cyngor.


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mawrth yr 20fed 2020

Gwelwch y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am ysgolion yma


Datganiad Covid-19 Cyngor Tref Llanfairfechan, Mawrth y 19eg 2020

Yn sgil canllawiau’r llywodraeth ynghylch cadw pellter cymdeithasol, rydym am ddefnyddio edefyn e-bost i gytuno ar eitemau nad oes modd inni eu gohirio nes ein bod ni wedi trefnu cyfleusterau i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar-lein. Bu inni dderbyn gwybodaeth gan Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol bod pwysau ar Lywodraeth Prydain i gynnig arweiniad cyfreithiol inni ynghylch sut i gydymffurfio gyda’r Ddeddf Llywodraeth Leol yn ystod cyfnod y pandemig. Rydym yn gobeithio y byddwn yn derbyn eglurder am y broses hon erbyn ein cyfarfod nesaf ar Ebrill y 1af. Yn y cyfamser, rydym hefyd yn ymchwilio opsiynau galwadau cynhadledd lle bydd modd i aelodau’r cyhoedd ymuno hefyd. Bu pawb yn gytûn y dylen ni drafod eitemau agenda Mawrth y 18fed yng nghyfarfod CYNGOR TREF LLAWN ar ddydd Mercher, Ebrill y 1af lle’n bosib. Roedd eitemau 7 ac 16 yn faterion brys felly nid oedd modd eu gohirio. Gofynnwyd i Gynghorwyr benderfynu dros e-bost fel a ganlyn:

EITEM 7 I DRAFOD A CHYMERADWYO POLISI A STRATEGAETH CYFATHREBU CYNGOR TREF LLANFAIRFECHAN YN YSTOD Y PANDEMIG

Cytunwyd bod angen mynd i’r afael â’r mater hwn ar frys er mwyn cynnig ymateb eglur a chefnogol yn ystod Cam Gohirio Covid-19 yn unol â meini prawf Llywodraeth Prydain. Cynigwyd y dylai Cyngor Tref Llanfairfechan fabwysiadu’r Polisi Cynllun Wrthgefn y bu i’r Clerc ei lunio gan gydymffurfio gyda chanllawiau Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol. Yna yn sgil hynny, fe gaiff Tîm Rheoli Argyfwng y Pandemig ei ffurfio. Fe gytunwyd y dylai’r bobl ganlynol fod yn aelodau o’r tîm:

Y Faeres ar gyfer 2020/2021 Y Cyng. Delohne Merrell

Y Dirprwy Faeres 2019/2020 Y Cyng. Penny Andow (a fydd yn Faeres yn ystod 2020/2021)

Y Cyng. Chris Jones (cynigwyd fel Dirprwy Faer ar gyfer 2020/21)

Clerc y Dref – Jayne Neal

Sylwch caiff y Cynghorwyr eu hysbysu o unrhyw fusnes a chaiff holl benderfyniadau’r tîm eu cadarnhau gan y Cyngor Tref, un ai dros e-bost neu mewn cyfarfodydd fel y mae’r sefyllfa’n caniatáu. Bydd y grŵp yn cyflwyno cynllun gweithredu i’r Cyngor Tref Llawn ar ddydd Mercher, Ebrill y 1af. Yn y cyfamser, bydd y tîm yn hysbysu’r cyhoedd a’r Cyngor Tref o unrhyw ddiweddariadau yn sgil yr argyfwng Covid – 19. Fe ddosbarthwyd Polisi Cynllun Wrthgefn y Pandemig, Strategaeth Cyfathrebu’r Pandemig a dogfennau Protocol i Staff yn sgil Covid-19 dros e-bost cyn y cyfarfod. Cafodd y dogfennau eu cymeradwyo fel ag yr oedden nhw.

EITEM 16 I GYMERADWYO TALIADAU

Pawb yn gytûn y dylid gwneud y taliadau caiff eu crybwyll yn yr agenda.

Mae swyddfa’r Clerc ar gau ar hyn o bryd felly e-bostiwch unrhyw ymholiadau at jayne@llanfairfechan.net neu cysylltwch â’ch Cynghorydd Tref leol yn uniongyrchol yma os ydy hi’n well gennych chi.