Cyngor Tref Llanfairfechan

Cyfarfodydd

Ein Cyfarfod Nesaf:

Bydd cyfarfod ar-lein nesaf y Cofnodion Cyfarfod ar Nos Fercher 02/10/2024 am 7yh.

Os oes gennych chi unrhyw faterion brys yr hoffech chi eu cyfeirio at y Cyngor Tref neu os hoffech chi dderbyn manylion ar sut i ymuno gyda chyfarfod fel gwyliwr, anfonwch e-bost at y Clerc ar jayne@llanfairfechan.net

Amserlen Cyfarfodydd Blynyddol Agenda a Munudau Cyngor Manylion Cyswllt y Cynghorwyr Ceisiadau Grant a Dogfennau Strategol Is-bwyllgorau Cyngor Dref a Grwpiau Allanol Sgip Cymunedol, Ailgylchu a Gwastraff Rhybuddion Cymunedol

Croeso i Cyngor Tref Llanfairfechan

Saesneg Yn Unig

Mae Cyngor Tref Llanfairfechan yn gorff cyhoeddus ac annibynnol sy’n chwarae rhan bwysig a gwerthfawr yn cynrychioli’r gymuned. Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu darparu yn effeithiol a hefyd yn helpu i redeg a hyrwyddo digwyddiadau cymunedol.

Rydym ni’n gobeithio y bydd y wefan hon yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am weithgareddau’r Cyngor Tref a’r pentref. Dros y tudalennau hyn gallwch ddarganfod gwybodaeth am y Cyngor; chwilio am a lawrlwytho agendâu a chofnodion cyfarfodydd; dod o hyd i ddyddiadau cyfarfodydd nesaf y Cyngor a rhannu sylwadau, canmoliaethau neu gwynion.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am grwpiau cymunedol a digwyddiadau lleol yn ogystal â’r hyn sydd gan Lanfairfechan i’w gynnig, ewch i wefan Hwb Cymunedol Llanfairfechan yma.

Ynglŷn â Chyngor Tref Llanfairfechan

Mae 13 Cynghorydd Tref ar Gyngor Tref Llanfairfechan sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol i gynrychioli’r gymuned. Mae eu gwaith yn cynnwys helpu i redeg digwyddiadau, bod yn gynrychiolydd cymunedol ar bwyllgorau a mynychu cyfarfodydd y Cyngor Tref i leisio eu cefnogaeth a’u pryderon a phleidleisio dros wahanol faterion. Yn ychwanegol at y Cynghorwyr Tref gwirfoddol, mae gennym ni ambell i aelod o staff sy’n helpu gyda gwaith gweinyddol cyffredinol, cyfathrebu a materion amgylcheddol o gwmpas y dref. Gallwch ddarllen mwy am y Cyngor Tref a’r aelodau tîm yma.

Ceisiadau Grant 

Mae Cyngor Tref Llanfairfechan yn cynnig grantiau i grwpiau a gweithgareddau lleol yn Llanfairfechan. Os hoffech chi ymgeisio am grant, ewch i’r dudalen Ceisiadau Grant a Dogfennau Strategol yma: Ymgeisio am Grantiau.

Ynglŷn â Llanfairfechan

Mae Llanfairfechan rhwng Traeth Lafan a Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r ardal wedi bod yn llawn bryngaerau a ffermydd ers o leiaf 7,000 o flynyddoedd.

Am wybodaeth bellach a data am y gymuned, edrychwch ar ein tudalen Deall Lleoedd Cymru:

http://www.understandingwelshplaces.wales/en/compare/W37000346/


Cysylltiadau Defnyddiol

Tudalen Facebook Cyngor Tref Llanfairfechan

Marchnad Bwyd ac Artisan Llanfairfechan

Archebwch Neuadd y Dref Gymunedol Llanfairfechan

Archebwch Bêl-droed 3G Llanfairfechan a Ardal Gemau Amlddefnydd

Hwb Cymunedol Llanfairfechan   - gwefan yn cael ei datblygu i gefnogi Gweithgareddau Cymunedol Llanfairfechan


Adroddiad Blynyddol

Bob blwyddyn mae’r Cyngor Tref yn darparu crynodeb hawdd ei ddarllen o’n gweithgareddau, gwariant a chyraeddiadau dros y flwyddyn. Mae ein hadroddiad diweddaraf yma:

Adroddiad Blynyddol