Cyngor Tref Llanfairfechan

Cyfarfodydd

Ein Cyfarfod Nesaf:

Bydd cyfarfod ar-lein nesaf y Cofnodion Cyfarfod ar Nos Fercher 04/02/2026 am 7yh.

Os oes gennych chi unrhyw faterion brys yr hoffech chi eu cyfeirio at y Cyngor Tref neu os hoffech chi dderbyn manylion ar sut i ymuno gyda chyfarfod fel gwyliwr, anfonwch e-bost at y Clerc ar swyddfa@llanfairfechan.net

Amserlen Cyfarfodydd Blynyddol Agenda a Munudau Cyngor Manylion Cyswllt y Cynghorwyr Ceisiadau Grant a Dogfennau Strategol Is-bwyllgorau Cyngor Dref a Grwpiau Allanol Sgip Cymunedol, Ailgylchu a Gwastraff Rhybuddion Cymunedol

Gwybodaeth am y Cyngor

Mae’r Cyngor Tref yn anelu at wella ansawdd bywyd lleol a darparu gwasanaethau i gwrdd ag anghenion lleol.

Mae 13 cynghorydd wedi’u hethol i gynrychioli 3 ward yn Llanfairfechan – Bryn, Lafan a Phandy (Cliciwch yma i weld Map Ffiniau’r Wardiau) – gan wasanaethu poblogaeth o bron i 4,000 o drigolion. Caiff Cynghorwyr eu dewis gan bobl leol mewn etholiadau, gaiff eu cynnal bob 4 blynedd. Caiff Maer Llanfairfechan ei ddewis gan y Cynghorwyr mewn etholiad sy’n digwydd bob blwyddyn. Mae gwaith Cynghorydd Lleol yn wirfoddol a democrataidd.

Darllenwch fwy am beth mae’r Cynghorwyr Tref yn ei wneud yma.

Cynhaliwyd yr etholiadau lleol ddydd Iau 5 Mai 2022. Etholwyd y Cynghorwyr am gyfnod o bum mlynedd.

Etholiadau

Cynhaliwyd yr etholiadau lleol ddydd Iau 5 Mai 2022. Etholwyd y Cynghorwyr am gyfnod o bum mlynedd.

Cynhelir yr etholiadau nesaf ym mis Mai 2027.

Pwy Ydy Ein Cynghorwyr?

Sgroliwch i lawr i weld rhestr o’n Cynghorwyr ac aelodau staff.

Deall y Rolau:

Cyngor Tref Llanfairfechan o gymharu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae Cyngor Tref Llanfairfechan yn gyfrifol dros fynd i’r afael ag anghenion a diddordebau penodol ein cymuned. Gallai olygu rheoli / helpu rheoli cyfleusterau ‘seiliedig ar le’ megis parciau, caeau chwarae, a gerddi cymunedol, yn ogystal â threfnu digwyddiadau tref a chefnogi grwpiau a mentrau lleol. Mae’r Cyngor Tref yn chwarae rhan annatod yn cynrychioli trigolion Llanfairfechan ar faterion sy’n effeithio ar y dref, gan sicrhau modd i bobl leol leisio’u barn mewn trafodaethau ehangach. At hyn, mae’r Cyngor yn ymgymryd â mân dasgau cynnal a chadw, megis trin llwybrau cerdded a phrosiectau harddu ar raddfa fach, gan gyfrannu tuag at ansawdd bywyd cyffredinol ein tref. 

Does dim modd i’r Cyngor Tref atal penderfyniadau cynllunio adeiladu yn y dref ond gallan nhw anfon sylwadau sy’n seiliedig ar ymgynghoriadau ac ymchwil at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gan hynny, mae’r cyngor tref yn cyflawni rôl hollbwysig yn cynrychioli trigolion Llanfairfechan ar faterion sy’n effeithio ar y dref, gan sicrhau modd i bobl leol leisio’u barn mewn trafodaethau ehangach.  

Ar y llaw arall, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gwmpas ehangach o gyfrifoldebau sy’n ymdrin â’r sir yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys Llanfairfechan. Mae’r cyngor hwn yn rheoli gwasanaethau cyhoeddus sylweddol megis addysg, trafnidiaeth, gwasanaethau cymdeithasol a rheoli gwastraff. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am brosiectau seilwaith ledled y sir, tai, a chynllunio strategol. Mae’r Cyngor Sir yn sicrhau caiff yr holl wasanaethau hanfodol eu darparu’n effeithlon ledled yr holl drefi a chymunedau yn y sir, gan weithio ar brosiectau graddfa fwy a pholisïau sy’n effeithio ar ardal ehangach. Drwy gydweithio, mae’r   ddau gyngor yn ymdrechu i hybu llesiant a datblygiad Llanfairfechan a’i thrigolion.

Adroddiad Blynyddol

Bob blwyddyn mae’r Cyngor Tref yn darparu crynodeb hawdd ei ddarllen o’n gweithgareddau, gwariant a chyraeddiadau dros y flwyddyn. Mae ein hadroddiad diweddaraf yma:

Adroddiad Blynyddol

Cyfarfodydd y Cyngor Tref

Mae cyfarfodydd y Cyngor yn agored i’r cyhoedd ac mae gennych chi’r dewis i siarad am unrhyw beth hoffech chi ei godi. Ar ddechrau pob cyfarfod o’r Cyngor caiff fforwm agored ei gynnal i dderbyn sylwadau gan aelodau’r cyhoedd (dim mwy na 5 munud i bob siaradwr neu fel y barno’r Cadeirydd yn ddoeth).

Caiff cyfarfodydd hybrid eu cynnal bob 3 wythnos gan amlaf ar nos Fercher am 7yh ar-lein neu yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Dref. Caiff dyddiadau cyfarfodydd nesaf y Cyngor Tref eu harddangos ar hysbysfwrdd y Cyngor Tref yn ffenestr Neuadd y Dref ar Ffordd y Pentref ac yma ar y wefan. Caiff agendâu eu harddangos 3 diwrnod cyn y cyfarfod. Mae copïau o Gofnodion ar gael i’w gweld yn Llyfrgell Llanfairfechan, Ffenestr Neuadd y Dref ac ar y wefan yma

Sut i fynychu

Cliciwch yma i weld sut i fynychu


Cyngor Tref Llanfairfechan Town Council – Pwy yw pwy?

Maer

Cyng Nia Jones (Annibynnol)
nia.jones@llanfairfechantowncouncil.co.uk

Dirprwy Faer

Cyng Sharne - Marie Bellis (Annibynnol)
sharnemariebellis@gmail.com

 

Cynghorwyr

Ward Bryn

1 Swydd Wag yn Ward Bryn

Cyng Alun Rhys Jones  (Plaid Werdd Cymru)
alun.rhys.jones@llanfairfechantowncouncil.co.uk 

Cyng Christine Roberts  (Llafur Cymru)
christine.roberts@llanfairfechantowncouncil.co.uk

Cyng Rhys Griffiths
rhys.griffiths@llanfairfechantowncouncil.co.uk

 

Ward Lafan

Dim Swydd Gwag yn Ward Lafan

Cyng Leena Farhat  (Annibynnol)
leena.farhat@llanfairfechantowncouncil.co.uk

Cyng Andrew Hinchliff (Llafur Cymru)
andrwscar@aol.com

Cyng Charlotte Davies
charlotte.davies@llanfairfechantowncouncil.co.uk

 

Ward Pandy

Dim Swydd Gwag yn Ward Pandy

Cyng Penny Andow  (Cynghorydd Sir i Pandy) (Llafur Cymru)
cllr.penny.andow@conwy.gov.uk

Cyng Sharne - Marie Bellis (Annibynnol)
sharne-marie.bellis@llanfairfechantowncouncil.co.uk

Cyng Chris Jones  (Annibynnol)
chris.jones@llanfairfechantowncouncil.co.uk

Cyng Nia Jones (Annibynnol)
nia.jones@llanfairfechantowncouncil.co.uk

Cyng Preben Vangberg  (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
preben.vangberg@llanfairfechantowncouncil.co.uk

 

Staff Cyngor Tref

Dim Swydd Gwag

Swyddog Prosiect Cydraddoldeb - Bethan Williams
bethan@llanfairfechan.net

Helo, Bethan ydw i.  Cefais fy ngeni yn LLannefydd, Sir Ddinbych, ond wedi byw yn LLanfairfechan gydol fy mywyd fel oedolyn.  Dyma lle y magais fy mhlant, sydd yn oedolion rwan, a lle dwi yn gysidro yn adre rwan.

Ar ol 25 mlynedd o weithio i Gyngor Brwrdeistref Conwy penderfynais ymddeol ond pan welais y swydd rhan  amser gyda Chyngor Tref Llanfairfechan roeddwn yn meddwl ei bod yn gyfle diddorol gan fy mod yn angerddol dros wneud yn siwr fod y Gymraeg yn rhan anatod o fywyd bob dydd Llanfairfechan i bawb: siaradwyr Cymraeg, siaradwyr newydd ac unrhyw un sydd a diddordeb ac awydd dysgu mwy. Dwi'm mwynhau gweithgareddau yn y gymuned, cyfarfod  pobl a helpu lle y gallaf.  Tu allan i'r gwaith dwi yn hoff iawn o'r theatr a chyngherddau a chymeryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.

Clerc - Jayne Neal
jayne@llanfairfechan.net

Clerc Jayne Neal

Dwi'n credu yn gryf mewn cymuned ac yn angerddol am ddiogelu a gwella cyfleoedd i drigolion Llanfairfechan.  Ar ol gyrfa o 25 mlynedd mewn gwahanol rol mewn gwasanaethau cyhoeddus yn Efrog ac ar draws Gogledd Cymru, rydwyf yn awr wedi bod yn y swydd Clerc y Cyngor ers 6  mlynedd.  Mae yn bleser gweithio yn fy nghymuned ac yn swydd foddhaol yn cefnogi grwp o aelodau etholedig gwirfoddol sydd hefyd a buddianau Llanfairfechan yn agos at eu calon. Gallwch ddod o hyd i mi yn aml yn y swyddfa yn y Neuadd Gymunedol ac mewn digwyddiadau.  Fy rol ydi helpu gyda gweinyddiaeth gyffredinol y gwasanaethau yn LLanfairfechan a hwyluso penderfyniadau a wneir yng nghyfarfodydd cyngor y dref.  O ganlyniad, dwi'n aml yn ymwybodol o'r hyn sydd yn digwydd yn LLanfairfechan.  Os oes gennych gwestiwn neu ymholiad mae croeso I chi anfon e-bost ataf neu alw heibio i'm gweld.


Swyddog Amgylcheddol - James Griffiths

Swyddog Amgylcheddol - James Griffiths

Helo fy enw i ydi James.  Dwi wedi fy ngeni a magu yn LLanfairfechan.  Dechreuais weithio i'r Cyngor Tref nol yn 2015.  Fy swydd ydi Swyddog Amgylcheddol, ond mae'r swydd wedi newid dros y blynyddoedd fel rwyf wedi ehangu fy sgiliau.  Dwi wrth fy modd fy mod yn gallu gweithio yn fy nghymuned ac mae yn dod a llawer o hapusrwydd i mi.  Mae fy swydd yn amrywiol iawn er engrhaifft; casglu sbwriel peth cyntaf yn y bore mewn gwahanol ardaloedd, gweithio yn agos gyda fy nghyd weithwyr yn y Cyngor Tref a Chyngor Bwrdeistref Conwy i gadw'r strydoedd a llwybrau yn daclus ac yn ddiogel i'w defnyddio.  Dwi hefyd yn gweithio gyda aelodau pwyllgor Neuadd Gymunedol Llanfairfechan i gynnal a glanhau y neuadd.  Byddaf hefyd i'm gweld yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau mewn siaced hi-viz yn barod i roi unrhyw gymorth sydd ei angen.


Dirprwy Glerc y Dref - Callum Morrison
callum@llanfairfechan.net

Dirprwy Glerc y Dref - Callum Morrison

Callum ydw i, a mi fyddwch yn fy adnabod gan mai fi ydi'r un hefo'r gwallt coch hir.  Mi wnes i symud y fyw i Lanfairfechan yn 2020 a wedi syrthio mewn cariad hefo'r lle yn syth.  Rwyf wedi teithio dros y byd ac un peth dwi wedi sylwi ydi fod y llefydd sydd a'r gymuned gryfaf ydi'r rhai sydd yn ffynnu.  Roedd Llanfairfechan yn sefyll allan i mi fel ardal hefo cymuned gref a phrysur.  Roeddwn eisiau bod yn rhan o'r gymuned yma a defnyddio fy sgiliau lle y gallwn.  Cefais gyfle i ymuno a thim Cyngor Tref LLanfairfechan ym mis Mawrth 2024 fel Swyddog Prosiect Digwyddiadau gyda'r bwriad o drefnu digwyddiadau a marchnadoedd drwy'r flwyddyn er mwyn gwella y gyfathreb rhwng y cyngor a'r preswylwyr.  Ers hynny dwi wedi bod yn lwcus i gael fy newis fel Is Glerc y Dref sydd yn ehangu fy swydd i gael cyfrifoldebau ychwanegol i helpu rhoi gwasanaethau, cyllid a gweinyddiaeth gyffredinol.