Cyngor Tref Llanfairfechan

Cyfarfodydd

Ein Cyfarfod Nesaf:

Bydd cyfarfod ar-lein nesaf y Cofnodion Cyfarfod ar Nos Ferche r04/12//2024 am 7yh.

Os oes gennych chi unrhyw faterion brys yr hoffech chi eu cyfeirio at y Cyngor Tref neu os hoffech chi dderbyn manylion ar sut i ymuno gyda chyfarfod fel gwyliwr, anfonwch e-bost at y Clerc ar jayne@llanfairfechan.net

Amserlen Cyfarfodydd Blynyddol Agenda a Munudau Cyngor Manylion Cyswllt y Cynghorwyr Ceisiadau Grant a Dogfennau Strategol Is-bwyllgorau Cyngor Dref a Grwpiau Allanol Sgip Cymunedol, Ailgylchu a Gwastraff Rhybuddion Cymunedol

Sut i Gymryd Rhan

Mae nifer o ffyrdd gall ein haelodau cymunedol gymryd rhan gyda’r Cyngor Tref:

1) Mynychu Cyfarfodydd y Cyngor Tref

Mae cyfarfodydd y Cyngor yn agored i’r cyhoedd ac mae gennych chi’r dewis i siarad am unrhyw beth hoffech chi ei godi. Ar ddechrau pob cyfarfod o’r Cyngor caiff fforwm agored ei gynnal i dderbyn sylwadau gan aelodau’r cyhoedd (dim mwy na 5 munud i bob siaradwr neu fel y barno’r Cadeirydd yn ddoeth).

Caiff cyfarfodydd eu cynnal gan amlaf bob 3ydd nos Fercher y mis am 7yh yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref. Caiff dyddiadau cyfarfodydd nesaf y Cyngor Tref eu harddangos ar hysbysfwrdd y Cyngor Tref yn ffenestr Neuadd y Dref ar Ffordd y Pentref ac yma ar y wefan. Caiff agendâu eu harddangos 3 diwrnod cyn y cyfarfod. Mae copïau o Gofnodion ar gael i’w gweld yn Llyfrgell Llanfairfechan, Ffenestr Neuadd y Dref ac ar y wefan yma

Sut i fynychu

Cliciwch yma i weld sut i fynychu

 

2) Sefyll fel Cynghorydd Tref

Caiff Cynghorwyr Tref eu hethol gan y cyhoedd ac maent yn y swydd am 5 mlynedd. Mae 13 sedd ar gael. Mae’n swydd wirfoddol sy’n rhoi’r gallu ichi bleidleisio dros faterion y Cyngor Tref tra byddwch chi’n cynrychioli’ch ward (ardal). O bryd i’w gilydd, ni fydd cynghorwyr cyfredol yn gallu parhau gyda’u dyletswyddau ac felly byddant yn ymddiswyddo o’r Cyngor. Mewn achosion fel hyn, caiff isetholiad ei gynnal ar gyfer sedd benodol y cynghorydd yna. Caiff seddi gwag eu rhestru ar dudalen Ynglŷn â’r Cyngor yma.

 

Ffyrdd eraill o gymryd rhan yn eich cymuned

Os ydych chi eisiau cymryd rhan yn eich cymuned ond ddim yn meddwl mai’r Cyngor Tref ydy’r lle gorau i chi, yna mae llawer o grwpiau cymunedol eraill y gallwch chi fod yn rhan ohonynt.

Edrychwch ar ein tudalen Grwpiau Lleol ar ein Hwb Cymunedol i ddarganfod mwy am wahanol grwpiau lleol a’u manylion cyswllt: Hwb Cymunedol Llanfairfechan