Mae Grantiau Cymunedol Cyngor Tref Llanfairfechan ar gyfer grwpiau neu weithgareddau yn Llanfairfechan yn unig. Os nad ydy hyn yn berthnasol ichi, yna gofynnwn yn garedig ichi beidio â chwblhau’r ffurflen gais.
I ymgeisio ar gyfer grant, cwblhewch y ffurflen isod a’i e-bostio at ein Clerc y Dref:
jayne@llanfairfechan.net
Ffurflen Gais Grantiau Cymunedol - *Gall y Clerc ddarparu cyfieithiad ar gais*
Rydym yn derbyn ceisiadau Grantiau Cymunedol rhwng Mai ac Ionawr ac fe gân nhw eu dwyn i ystyriaeth mewn cyfarfodydd Llawn y Cyngor Tref drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried ceisiadau brys y tu hwnt i’r rowndiau grantiau ffurfiol hyn os oes angen.
Sylwch ein bod ni wedi rhoi proses ymgeisio ac adrodd llym ar waith er mwyn sicrhau tryloywder ynghylch defnydd y grantiau hyn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynghylch ein Grantiau Cymunedol, cysylltwch gydag ein Clerc y Dref ar: jayne@llanfairfechan.net
*Gall y Clerc ddarparu cyfieithiad ar gais*
s137 Community Group grants paid before March 31st 2024 | |
Ysgolion Urdd support grant s137 | £2880.00 |
Llanfairfechan Playgroup Grant | £500.00 |
Running Imp Santa Medals | £207.70 |
Llanfairfechan Bowling Club | £500.00 |
Llan Community Hall Veterans Grant | £151.25 |
s144 Celebrations grants paid before March 31st 2024 | |
Amazon Paper crowns for school project | £40.77 |
Sweet Snowdonia coronation crown project | £100.00 |
Amazon Temporary Tattoos | £2.25 |
Amazon Temporary Tattoos | £5.46 |
Amazon Temporary Tattoos | £8.98 |
Alex Greenly Jones Bouncy Castle Fun Day | £90.00 |
NISA Refreshments Fun Day | £54.70 |
Amazon Popcorn Boxes for Fun Day | £13.98 |
Festival Fireworks | £1800.00 |
Nationwide Ambulance Fireworks | £216.00 |
Nood Food Toffee Apples Cost Price | £75.00 |
Runnin Imp Santa Medals | £239.24 |
Amazon Xmas Ornaments | £81.92 |
Nationwise Ambulance Festive Fayre | £216.00 |
Amberon Festive Fayre | £1362.00 |
Alice Morgan Riverside Cafe Buffet | £170.00 |
Beulah Brass Donation | £50.00 |
Tammy Hales Face Painting | £300.00 |
Menai Training Band Donation | £50.00 |
Nationwide Ambulance Service | £216.00 |
HGH 0071 LLan TC | £254.36 |
Cawthrays Shop Award | £45.00 |
NISA Mince Pies for Stall Holders | £43.00 |
Jayne Neal REIM Easter Eggs | £40.00 |
SETS Limited | £4965.60 |
s176 Civic events grants paid before March 31st 2024 | |
Amberon Road Closure Remembrance | £696.00 |
British Legion Poppy Appeal | £60.00 |
Viking New Paper and Card for Rememberance | £108.94 |
Discover Llanfairfechan Grant | £1000.00 |
s19 Community Venue Grants paid before March 31st 2024 | |
Llan Community Hall S19 Grant 2023 | £5000.00 |
Total grants awarded for community activities in 2023/24 | £21,554.15 |
Caiff holl weithrediadau cyflwyno grantiau Cyngor Tref Llanfairfechan eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth Deddf Llywodraeth Leol 1972
Nid yw’r Cyngor Tref yn derbyn cyllid yn awtomatig pob blwyddyn. Mae’n rhaid inni lunio a chytuno ar gyllideb gwariant amcangyfrifedig. Mae’r gyllideb hon yn help i dalu am wasanaethau megis cynnal a chadw parciau, cynnal digwyddiadau cymunedol, a chynnig cymorth i fentrau lleol. Ychydig iawn o incwm sydd gan y Cyngor Tref yn deillio o’i weithgareddau ei hun (megis Marchnadoedd Crefftau ac ati) ac yn gyffredinol dydy’r incwm hwn ddim yn ddigon i dalu llawer o gostau’r Cyngor Tref.
Daw mwyafrif yr incwm gan y llywodraeth, ac mae gofyn inni ddarparu ‘Cais Archebiant’. Caiff y ‘Cais Archebiant’ hwn ei gyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae angen iddyn nhw gytuno arno gyda Llywodraeth Cymru. Caiff yr archebiant ei gasglu fel rhan o’ch bil treth cyngor ac mae’n ymddangos ar eich datganiad blynyddol.
GOFYNION ARCHEBIANT AM 2024/2025
*Gall y Clerc ddarparu cyfieithiad ar gais*
Mae rheoliad 15 (5) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, erbyn 30 Medi 2021, i Cyngor Tref Llanfairfechan gyhoeddi ei ddatganiadau cyfrifyddu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn neu adroddiad a gyhoeddwyd, a roddwyd neu a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Gwybodaeth ar gyfer y Cynllun Cyhoeddiadau
*Gall y Clerc ddarparu cyfieithiad ar gais*
Mae’r panel Taliadau Annibynnol yn pennu taliadau aelodau cynghorau cymuned a thref pob blwyddyn. Yn unol ag Adran 151 Mesurau Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, dyma restr o’r taliadau bu i’r aelodau eu cyflwyno yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16.
*Gall y Clerc ddarparu cyfieithiad ar gais*