Cyngor Tref Llanfairfechan

Cyfarfodydd

Ein Cyfarfod Nesaf:

Bydd cyfarfod ar-lein nesaf y Cofnodion Cyfarfod ar Nos Ferche r04/12//2024 am 7yh.

Os oes gennych chi unrhyw faterion brys yr hoffech chi eu cyfeirio at y Cyngor Tref neu os hoffech chi dderbyn manylion ar sut i ymuno gyda chyfarfod fel gwyliwr, anfonwch e-bost at y Clerc ar jayne@llanfairfechan.net

Amserlen Cyfarfodydd Blynyddol Agenda a Munudau Cyngor Manylion Cyswllt y Cynghorwyr Ceisiadau Grant a Dogfennau Strategol Is-bwyllgorau Cyngor Dref a Grwpiau Allanol Sgip Cymunedol, Ailgylchu a Gwastraff Rhybuddion Cymunedol

Sgip Cymunedol, Ailgylchu a Gwastraff

 


Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Dysgwch sut i archebu slot gollwng mewn canolfannau ym Mochdre ac Abergele, ynghyd â defnyddio canolfannau Sir Ddinbych yma.


Sgipiau Cymunedol

Cliciwch am y Calendr Sgipiau Cymunedol

 

DIWEDDARIAD O FIS EBRILL 2024 YMLAEN – Nid ydy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach yn ariannu’r sgipiau cymunedol oherwydd toriadau cyllid. Mae Cyngor Tref Llanfairfechan yn gweld sgipiau cymunedol yn adnodd hanfodol ac felly eisiau parhau gyda’r sgipiau cymunedol drwy hurio cwmni preifat gyda’n harian ein hunain. Rydym ni wedi cytuno y bydd y Cyngor Tref yn ariannu sgip 8 llath unwaith y mis ym Maes Parcio Ffordd yr Orsaf.

Yn ychwanegol, bydd sgip ym mhob ardal – Pendalar, Nant y Berllan a Ffordd Llannerch – unwaith y flwyddyn.

Rydym ni hefyd yn gweithio gyda chontractwr trwyddedig lleol fydd yn casglu metel sgrap ar ddiwrnodau’r sgip.

Bydd y sgipiau cymunedol yn wasanaeth llai na’r hyn oedd gennym ni drwy bartneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol. Felly, rydym ni eisiau rhannu gyda chi ffyrdd eraill o ailgylchu a chael gwared ar wastraff.

Station Road Maes Parcio

Day Date Time
dydd Mercher 17/07/2024 9am
dydd Mercher 21/08/2024 9am
dydd Mercher 18/09/2024 9am
dydd Mercher 16/10/2024 9am
dydd Mercher 20/11/2024 9am
dydd Mercher 18/12/2024 9am
dydd Mercher 22/01/2025 9am
dydd Mercher 19/03/2025 9am

Llannerch Road

Day Date Time
dydd Mercher 23/10/2024 9am

Pendalar

Day Date Time
dydd Gwener 30/08/2024 9am

Nant Y Berllan

Day Date Time
dydd Mercher 29/01/2025 9am

Gwastraff ac Ailgylchu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac elusennau eraill yn darparu nifer o gyfleusterau gwaredu gwastraff am ddim a thaladwy. Isod mae gwybodaeth am wasanaethau gwastraff ac ailgylchu sydd ar gael:

Dodrefn ac offer cartref sylweddol

  • Gallwch dalu am gasgliad swmpus ar gyfer dodrefn ac offer cartref sylweddol megis oergelloedd, poptai a pheiriannau golchi dillad diangen. Caiff yr eitemau eu cludo i Crest Cooperative er mwyn iddyn nhw eu hatgyweirio a’u rhoddi neu eu gwerthu. Gellir defnyddio eitemau, nad oes modd eu hailddefnyddio yn eu cyflwr cyfredol, ar gyfer rhannau neu eu hailgylchu.

Gallai’r preswylwyr drefnu gwasanaethau ar-lein yma www.conwy.gov.uk/recycling a chlicio ar yr opsiwn ‘Casgliadau Arbennig’ neu ffoniwch ein Tîm Cyngor ar 01492 575337.

  • Mae’r British Heart Foundation yn cynnig gwasanaeth casglu am ddim ar gyfer  dodrefn, nwyddau trydan y cartref ac eitemau arbenigol y gellir eu hail-werthu yn eu siopau. Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth clirio tai.
  • Gallwch fynd ag eich eitemau i Ganolfannau Ailgylchu Nwyddau’r Cartref yn rhad ac am ddim. Mae Siop Ailddefnyddio Mochdre yn adfer eitemau y mae modd eu hailddefnyddio ac yn eu gwerthu i gefnogi Hosbis Dewi Sant. Mae Siop Ailddefnyddio Mochdre ar agor: Pob dydd o 9:00 tan 16:30  

Dillad

  • Pob pythefnos, gallwch adael dillad, bagiau ac esgidiau i’w casglu ar garreg eich drws. Caiff eitemau eu golchi a’u hailddefnyddio gan Crest Cooperative.

Cysylltwch gyda Crest i dderbyn bagiau piws newydd ar 01492 596783 neu info@crestcooperative.co.uk. Gallwch hefyd gasglu’r bagiau hyn o’ch llyfrgell leol. Os ydych chi’n byw yng nghefn gwlad (h.y. ar fferm) ffoniwch 01492 596783 i drefnu’ch casgliad.

  • Mae nifer o elusennau hefyd yn falch iawn o dderbyn rhoddion o ddillad, llyfrau, bagiau, teganau ac esgidiau o safon. Yn Llanfairfechan, mae gennym ni 2 siop elusen: Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin ar Ffordd yr Orsaf (drws nesaf i Siop Carpedi Draper’s) ac Annie’s Orphans ar Ffordd y Pentref (gyferbyn â’r ysgol). At hyn, mae gennym ni ambell i fin tecstilau mawr metel wedi’u dotio yma ac acw yn y dref.

Nwyddau bach trydan

  • Pob pythefnos, gallwch adael eich nwyddau bach trydan i’w casglu ar garreg eich drws. Caiff yr eitemau eu hatgyweirio a’u hail-ddefnyddio gan Crest Cooperative.


Cysylltwch gyda Crest i dderbyn bagiau piws newydd ar 01492 596783 neu info@crestcooperative.co.uk. Gallwch hefyd gasglu’r bagiau hyn o’ch llyfrgell leol. Os ydych chi’n byw yng nghefn gwlad (h.y. ar fferm) ffoniwch 01492 596783 i drefnu’ch casgliad.

Podiau Coffi

Dylid ailgylchu podiau plastig ac alwminiwm gan ddefnyddio bagiau casglu Podback – bagiau gwyn ar gyfer podiau alwminiwm a bagiau gwyrdd ar gyfer podiau plastig. Bydd angen ichi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Podback i dderbyn y bagiau. Cofrestrwch ac archebwch eich bagiau ailgylchu AM DDIM ar wefan Podback: https://www.podback.org/

Unwaith y byddwch chi wedi derbyn eich bagiau, dilynwch y cyfarwyddiadau a’u gadael allan pob pythefnos ar ddiwrnod casglu eich tecstilau a nwyddau electronig. Neu os ydych chi’n byw yng nghefn gwlad (h.y. ar fferm), gallwch drefnu casgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783.


Opsiynau Ailddefnyddio neu Ailgylchu eraill

Atgyweirio eitemau sydd wedi torri

Mae Caffis Trwsio yn helpu pobl i fanteisio i’r eithaf ar eu heitemau presennol. Gallai unrhyw un ddod â’u heitemau cartref, technoleg, beiciau a dillad draw a bydd yr arbenigwyr gwirfoddol yn gwneud eu gorau glas i’w hatgyweirio.

Gallwch ddod o hyd i’ch caffi trwsio agosaf a’r dyddiadau agor nesaf yma: https://repaircafewales.org/

Mae yna Gaffis Trwsio yng Nghonwy, Bae Colwyn a Llandudno.

Ennill arian yn gyfnewid am eich nwyddau diangen

Yn lle eich bod chi’n mynd ati i daflu eich eitemau, beth am geisio ennill ychydig o arian drwy eu gwerthu’n lleol ar www.Preloved.co.uk neu Facebook Marketplace.

Gallwch gyfrannu eich eitemau i gartref newydd drwy Conwy Freegle. Mae’n bosibl y bydd eich hen eitemau chi yn union beth sydd ei angen ar rywun arall! Ewch i https://www.ilovefreegle.org/explore/conwyfreegle


Opsiynau amgen i’r Sgipiau Cymunedol ar gyfer y preswylwyr

Canolfannau ailgylchu nwyddau’r cartref

Canolfannau ym Mochdre ac Abergele, a bydd modd defnyddio canolfannau Sir Ddinbych yn ogystal. Mae’r rhan fwyaf o’r eitemau yn rhad ac am ddim, bydd rhywfaint o gostau am wastraff DIY. Mae'r canolfannau trwy apwyntiad YN UNIG. Archebwch trwy wefan y cyngor.

Casgliadau gwastraff swmpus

£30.25 am hyd at 4 eitem (o Ebrill y 1af), wedi’u casglu y tu allan i’w heiddo.

Gallai’r preswylwyr drefnu’r gwasanaethau ar-lein ar www.conwy.gov.uk/recycling a chlicio ar yr opsiwn ‘Casgliadau Arbennig’ neu ffonio ein Tîm Cyngor ar 01492 575337.

Talu am eich cludwyr gwastraff Trwyddedig eich hun

Efallai y byddwch chi’n dewis talu am gwmni preifat i gael gwared ar eich gwastraff neu mae’n bosibl y byddwch chi’n gweld hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff rhad. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol i rai, ond hoffem eich rhybuddio i ofalu nad ydych chi’n cael eich twyllo gan rywun. Gallwch wynebu dirwy sylweddol.

Mae gennych chi ddyletswydd gyfreithiol i wirio bod y person sy’n cludo eich gwastraff yn gludwr gwastraff cofrestredig.

Gofynnwch i’r person neu’r busnes i ddangos tystiolaeth ichi eu bod nhw wedi cofrestru i gludo neu dderbyn gwastraff. Yn well byth, gallwch gadarnhau’r manylion eich hun drwy ymweld â Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe ddylech chi hefyd gofnodi eu henw (neu enw busnes), math o gerbyd a rhif cofrestru eu car. Cofiwch gofnodi’r dyddiad wnaethon nhw gludo eich gwastraff a gofynnwch iddyn nhw i ble y byddan nhw’n cludo eich gwastraff.

Os ydych chi’n methu â bodloni eich dyletswydd gofal tuag at eich gwastraff y cartref, gallwch dderbyn hysbysiad cosb benodedig (FPN) o £300 neu dirwy anghyfyngedig os cewch chi’ch erlyn.

 

Gwiriwch fod deliwr metel sgrap neu gwmni cludo sbwriel yn meddu ar drwydded:

https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/waste-carriers-brokers-and-dealers-public-register/?lang=en

 

Sut i sicrhau caiff eich sbwriel ei waredu’n gyfrifol:

https://flytippingactionwales.org/en/advice/householder

 

Eich cyfrifoldeb cyfreithiol chi, hyd yn oed os oes rhywun yn cludo eich sbwriel gennych chi:

https://flytippingactionwales.org/en/advice/duty-of-care