Cyngor Tref Llanfairfechan

Cyfarfodydd

Ein Cyfarfod Nesaf:

Bydd cyfarfod ar-lein nesaf y Cyfarfod Cyngor Tref ar Nos Fercher December 6ed 2023 am 7yh. Os oes gennych chi unrhyw faterion brys yr hoffech chi eu cyfeirio at y Cyngor Tref neu os hoffech chi dderbyn manylion ar sut i ymuno gyda chyfarfod fel gwyliwr, anfonwch e-bost at y Clerc ar jayne@llanfairfechan.net

Gwaith y Cyngor

Fe ffurfiwyd Cyngor Tref Llanfairfechan wedi ad-drefnu’r Llywodraeth Leol ym 1974. O gymharu â’r hen Gyngor Dosbarth Trefol, mae’r Cyngor Tref cyfredol yn meddu ar lai o rymoedd a chyfrifoldebau ond maen nhw’n dal yn chwarae rhan annatod yn cynnal a chefnogi’r dref a’i materion o ddydd i ddydd.

Pob blwyddyn, fe gaiff y Maer a’r Dirprwy Faer eu hethol gan gyd-gynghorwyr. Rydym yn cyflogi tri aelod o staff rhan amser; Clerc y Dref sydd hefyd yn Swyddog Ariannol Cyfrifol, Cynorthwyydd Gweinyddol a Swyddog Amgylcheddol sy’n gofalu am lendid canol y dref a’r promenâd.

Dyma restr o’n dyletswyddau;

Rydym yn gyfrifol dros gynnal a chadw’r senotaff ar Ffordd Aber a threfnu Gwasanaeth Sul y Cofio gydag Eglwysi’r ardal. Gallwch nôl unrhyw dorchau pabi, sydd wedi’u harchebu ymlaen llaw un ai drwy Glerc y Dref neu’n uniongyrchol gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghonwy, gennym ni.

  • Rydym yn trefnu’r arddangosiad tân gwyllt blynyddol.
  • Rydym yn cyflwyno grantiau i fudiadau gwirfoddol yn Llanfairfechan – yn unol ag amodau a thelerau.
  • Rydym yn cynnig Sgipiau Cymunedol pob mis er defnydd domestig yn unig.
  • Rydym yn cyfrannu at y canlynol pob blwyddyn:
  • Cymdeithas Twristiaeth ac Adnoddau Llanfairfechan i helpu i gynnal a chadw’r wefan ynghyd â chynnig adloniant ar y Promenâd yn yr haf ac argraffu taflenni gwybodaeth i dwristiaid, cardiau post a chofroddion.
  • A chadw a phrynu goleuadau Nadolig newydd.
  • Cymdeithas Neuadd Gymunedol Llanfairfechan tuag at gynnal a chadw’r neuadd.
  • Cymdeithas Gefeillio Trefi ac rydym hefyd yn cymryd rhan mewn cyfnewidiau ac ymweliadau.
  • Llanfairfechan Community Events Committee i gynnal eu digwyddiad blynyddol.
  • Grŵp Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan tuag at gynnal gwasanaeth y llyfrgell
  • Cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
  • Rheoli’r Tai bach cyhoeddus ar Ffordd Y Pentref.
  • Cynnal a chadw’r prif lwybrau cerdded a llwybrau ceffylau.
  • Cyfrannu tuag at gynnal a chadw llochesi bysiau.
  • Cyfrannu tuag at welliannau i’r holl ardaloedd chwarae yn y dref.