Cyngor Tref Llanfairfechan

Cyfarfodydd

Ein Cyfarfod Nesaf:

Bydd cyfarfod ar-lein nesaf y Cyfarfod Cyngor Tref ar Nos Fercher December 6ed 2023 am 7yh. Os oes gennych chi unrhyw faterion brys yr hoffech chi eu cyfeirio at y Cyngor Tref neu os hoffech chi dderbyn manylion ar sut i ymuno gyda chyfarfod fel gwyliwr, anfonwch e-bost at y Clerc ar jayne@llanfairfechan.net

Dogfennau Strategol

Cais am Archeb gan Gyngor Tref Llanfairfechan 2021/2022

Yn sgil y pandemig Covid-19, bu i Gyngor Tref Llanfairfechan gytuno y dylen ni gyflwyno cais archeb digyfnewid i sicrhau nad ydym yn disgwyl i drigolion Llanfairfechan ymgymryd â beichiau ariannol ychwanegol yn ystod y cyfnod anodd hwn. O ganlyniad i’n gofal ariannol pwyllog ers blynyddoedd maith, mae modd inni barhau i ddatblygu ein gwasanaethau gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn prosiectau i ddiwallu unrhyw anghenion datblygu neu frys yn ystod 2021/22.

Ffurflen gais archeb 2021/22

Dadansoddiad Cytundeb Cytunedig 2021/2022


Grantiau Cymunedol Cyngor Tref Llanfairfechan 2020/21

Mae’r broses ymgeisio cyffredinol ar gyfer Grantiau Cymunedol Cyngor Tref Llanfairfechan 2020/21 wedi dod i ben erbyn hyn. Sylwch y bu inni gynnal proses ymgeisio ac adroddi trwyadl er mwyn egluro defnydd y grantiau hyn. Dyma fanylion proses ymgeisio 2021/22 fel a ganlyn:

  • Rownd 1 Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau, 12 hanner dydd ar ddydd Mercher, Gorffennaf y 14eg 2021
  • Rownd 2 Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau, 12 hanner dydd ar ddydd Mercher, Ionawr y 19eg 2022

Byddwn yn dwyn i ystyriaeth ceisiadau brys y tu hwnt i’r rowndiau grant ffurfiol hyn os yn briodol.

Pecyn cais y gellir ei olygu

Ffurflen gais PDF

Dyma’r grantiau sydd wedi’u cyflwyno yn 2020:

Banc Bwyd Llanfairfechan – i gyflenwi stociau o fwydydd. Bu’r galw yn llawer uwch yn sgil y pandemig.

£2,000.00

Clwb Croce Gogledd Cymru a Llanfairfechan

Byrddau ymylon a ffensys newydd

£500.00

Digwyddiad prosiect y Cyngor Tref – Adloniant Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Octopws Ffynci yn ymweld â’r strydoedd a’r promenâd

£400.00

Llan Heini – sesiynau ffitrwydd am ddim i bobl ifanc a phobl dros 65. Cyfarpar gweithgareddau Penalty Box. Cynnig sesiynau cadw’n heini yn yr awyr agored am ddim i deuluoedd Llanfairfechan yn ystod gwyliau’r haf.

£800.00

Clwb Bowlio Gwyrdd y Goron – gwaith ar gyfleusterau’r clwb. Mae problemau sylweddol gyda’r to a’r canopi.

£1,000.00

Clwb Pêl Droed Tref Llanfairfechan – cyrsiau, batris a phadiau newydd i’r Diffibriliwr, gwaith cynnal a chadw ar y cae, cyfarpar i’r tîm Iau

£1,500.00

Brownies Llanfairfechan – Prynu mwy o becynnau Brownies, deunyddiau celf a chrefft. Yn ogystal, pecynnau diheintio a chynnyrch glanhau.

£250.00

Goleuo Llan – Er na fydd prif ddigwyddiad, mae’r pwyllgor yn dymuno prynu goleuadau newydd i ychwanegu at effaith Goleuo Llan eleni.

£1,500.00

Cylch chwarae Llanfairfechan – Cyfarpar Diogelu Personol a chynnyrch diheintio ar gyfer y grŵp

£395.87

Neuadd Gymunedol Llanfairfechan – bu iddyn nhw geisio am y grant blynyddol o dan adran 19, cefnogaeth ar gyfer canolfannau cymunedol

£3,000.00

Ysgol Babanod (prosiect cefnogaeth Technoleg Gwybodaeth yn sgil Covid) – Chromebooks TGCh i helpu’r disgyblion ddychwelyd i’r ysgol yn dilyn cyfnod clo Covid-19

£1,500.00

Ysgol Pant y Rhedyn (prosiect cefnogaeth Technoleg Gwybodaeth yn sgil Covid) - Chromebooks TGCh i helpu’r disgyblion i ddychwelyd i’r ysgol yn dilyn cyfnod clo Covid-19

£1,500.00

Prosiect y  Cyngor Tref – Pwmpenni (er budd y banc bwyd). Gyda diolch i Heddlu Gogledd Cymru am gynnig grant o £100 tuag at gyfanswm cost y pwmpenni

£158.57

£58.57

Cyfanswm    £13,904.44

Caiff holl weithrediadau cyflwyno grantiau Cyngor Tref Llanfairfechan eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth Deddf Llywodraeth Leol 1972

Cyfrifon Cyngor Tref Llanfairfechan

Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

Mae rheoliad 15 (5) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, erbyn 30 Medi 2021, i Cyngor Tref Llanfairfechan  gyhoeddi ei ddatganiadau cyfrifyddu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn neu adroddiad a gyhoeddwyd, a roddwyd neu a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Mae'r datganiadau cyfrifyddu ar ffurf ffurflen flynyddol wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag, cyhoeddir y cyfrifon cyn i'r archwiliad ddod i ben. Oherwydd effaith COVID-19, nid yw'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi barn archwilio eto.

Rhybudd Oedi Swyddfa Archwilio Cymru

Gwybodaeth ar gyfer y Cynllun Cyhoeddiadau

Lwfansau a Threuliau Aelodau

Mae’r panel Taliadau Annibynnol yn pennu taliadau aelodau cynghorau cymuned a thref pob blwyddyn. Yn unol ag Adran 151 Mesurau Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, dyma restr o’r taliadau bu i’r aelodau eu cyflwyno yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16.

Dogfennau Llywodraethu a Chyfeirio