
Rydym wedi gofyn i’r cwmnïau cyfleustodau anfon diweddariadau atom pryd bynnag y bydd problem yn ardal Llanfairfechan. Gweler y diweddariadau diweddaraf isod.
| TORIADAU PWER |
|
Os byddwch chi'n profi toriadau pŵer yn annisgwyl, defnyddiwch god cod post SP Energy Networks neu ffoniwch rhifau argyfwng SP Energy Network. Byddantyn gallu rhoi ein hamcangyfrif gorau i chi o ba mor hir fydd hi cyn y gallant adfer eich pŵer. |
Diweddariad: 28/07/2025 - Newidiadau i Rhybudd Llifogydd – Byddwch yn barod (Flood Alert) Arfordir Gogledd Cymru
Dyma neges gyflym i’ch gwneud chi’n ymwybodol o newidiadau diweddar i Rybudd Llifogydd Arfordir Gogledd Cymru – Byddwch yn barod (Flood Alert), sydd wedi’i rannu’n ddwy ran: Arfordir Gogledd-ddwyrain Cymru, ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru.
Tra yn flaenorol, cyhoeddwyd y Rhybudd Llifogydd - Byddwch yn barod yn seiliedig ar lefelau llanw unrhyw le ar hyd yr arfordir o Lerpwl i Fiwmares, bydd y ddwy ardal Rhybudd Llifogydd - Byddwch yn barod yn fwy penodol, sy'n golygu y bydd unigolion sydd wedi cofrestru ar eu cyfer yn cael llai o rybuddion, ond byddent yn fwy pwrpasol.
Bydd eiddo yn Llanfairfechan nawr ond yn derbyn negeseuon ar gyfer Arfordir Gogledd Orllewin Cymru oni bai eu bod wedi cofrestru i dderbyn negeseuon ar gyfer Arfordir Gogledd Ddwyrain Cymru hefyd.
Pan geith y Rhybudd Llifogydd – Byddwch yn barod ei gyhoeddi, bydd gwybodaeth ar gael ar y wefan: https://flood-warning.naturalresources.wales/Detail/101WATNW10?culture=cy-GB
Y rhif deialu cyflym ar gyfer Arfordir Gogledd Ddwyrain Cymru yw: (0345 988 1188) 501040.
Mae’r Arfordir Gogledd Ddwyrain Cymru yn defnyddio yr un rhif deialu cyflym a’r hen ardal Llifogydd – Byddwch yn barod (501036), ac fe ellir ei ffeindio ar y wefan: https://flood-warning.naturalresources.wales/Detail/101WATNE10?culture=cy-GB
Nid oes newid wedi bod i’r Rhybudd Llifogydd llanw ar gyfer Llanfairfechan y tro hwn.
Diweddariad: 09/10/24 - BINIAU GRAEAN MELYN
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu biniau graean mewn ardaloedd trefol a gwledig i drigolion lleol eu defnyddio. Fel arfer, nid yw'r biniau i'w cael ar y Ffyrdd Prif Flaenoriaeth sy’n cael eu graeanu gan ein Fflyd Graeanu, ond yn hytrach ar ffyrdd sydd â chyffyrdd prysur neu elltydd serth.
Mae'r graean yn y biniau i'w ddefnyddio ar y briffordd gyhoeddus yn unig; ni ddylid ei ddefnyddio ar ddreifiau nac ar gyfer defnydd personol. Bydd ychydig bach, wedi'i daenu yn gyfartal yn clirio'r rhan fwyaf o eira a rhew.
Gweld rhagor o wybodaeth a map o finiau graean: Biniau Graean - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Diweddariad: 07/04/25 - Casglu Gwastraff Ailgylchu
Rydym wedi cael ein hysbysu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn anffodus, heddiw, mae eu cerbydau casglu ailgylchu wedi torri lawr. Mae hyn wedi golygu nad ydynt wedi gallu gwneud yr holl gasgliadau a drefnwyd yn Llanfairfechan uchaf. Maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n ceisio dychwelyd yfory, os yn bosib. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymddiheuro am anghyfleustra.
Os gwelwch yn dda a all y trigolion a effeithir adael eu casgliad ailgylchu allan yfory (08/04/2025) oherwydd y gobaith yw y bydd Tîm Ailgylchu CBSC yn gallu dychwelyd.
Diweddariad: 25/09/24 - Gorlif Carthffosiaeth A Draeniau
Mae trigolion wedi rhoi gwybod i ni am eu pryder am orlif y system garthffosiaeth sy'n halogi ardal yr afon a'r traeth. Mae Dŵr Cymru yn darparu map gorlif stormydd byw y gall trigolion edrych arno yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf: MAP GORLIF STORM
Yn ogystal, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r rheolydd ar gyfer gweithfeydd dŵr/carthffosiaeth yng Nghymru. Dysgwch fwy am eu gwaith yma: Cyfrifoldebau Gorlifo Storm CNC
Os gwelwch orlif storm yn gweithredu mewn tywydd sych, gallwch roi gwybod i CNC ar eu llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000 24 awr y dydd. Gallwch hefyd adrodd amdano ar-lein.
Diweddariad: 30/09/24
Enw: Burst water main affecting supplies in Abergwyngregyn and surrounding areas of Llanfairfechan LL33
Statws: Cam 1 - Ymchwiliad
Amcangyfrif o'r dechrau: 30/09/2024
Amcangyfrif wedi'i gwblhau: 30/09/2024
I gael manylion llawn, ewch i:https://inyourarea.digdat.co.uk/dwrcymru?id=Bursts.16484